bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezra 8
Ezra 8
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 9 →
1
Dyma restr, gyda'r achau, o'r pennau-teuluoedd a ddaeth gyda mi o Fabilon yn nheyrnasiad y Brenin Artaxerxes.
2
O deulu Phinees, Gersom; o deulu Ithamar, Daniel; o deulu Dafydd, Hattus fab Sechaneia;
3
o deulu Pharos, Sechareia, a chant a hanner o ddynion wedi eu rhestru gydag ef.
4
O deulu Pahath-moab, Elihoenai fab Seraheia, a dau gant o ddynion gydag ef.
5
O deulu Sattu, Sechaneia fab Jahasiel, a thri chant o ddynion gydag ef.
6
O deulu Adin, Ebed fab Jonathan, a hanner cant o ddynion gydag ef.
7
O deulu Elam, Eseia fab Athaleia, a saith deg o ddynion gydag ef.
8
O deulu Seffateia, Sebadeia fab Michael, ac wyth deg o ddynion gydag ef.
9
O deulu Joab, Obadeia fab Jehiel, a dau gant a deunaw o ddynion gydag ef.
10
O deulu Bani, Selomith fab Josiffeia, a chant chwe deg o ddynion gydag ef.
11
O deulu Bebai, Sechareia fab Bebai, a dau ddeg ac wyth o ddynion gydag ef.
12
O deulu Asgad, Johanan fab Haccatan, a chant a deg o ddynion gydag ef.
13
Ac yn olaf, o deulu Adonicam, y rhai canlynol: Eliffelet, Jehiel a Semeia, a chwe deg o ddynion gyda hwy;
14
ac o deulu Bigfai, Uthai a Sabbud, a saith deg o ddynion gyda hwy.
15
Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon sy'n llifo i afon Ahafa a gwersyllu yno dridiau. Wedi bwrw golwg dros y bobl a'r offeiriaid, cefais nad oedd Lefiad yn eu plith.
16
Yna gelwais am y penaethiaid Elieser, Ariel, Semeia, Elnathan, Jarib, Elnathan, Nathan, Sechareia a Mesulam, ac am y doethion Joiarib ac Elnathan,
17
a'u hanfon at Ido, y pennaeth yng nghanolfan Chasiffeia; rhois iddynt neges i'w chyflwyno i Ido a'i frodyr, gweision y deml, oedd yn Chasiffeia, yn gofyn iddo anfon atom wasanaethyddion ar gyfer tu375? ein Duw.
18
Ac am ein bod yn derbyn ffafr ein Duw, anfonasant atom Serebeia, gu373?r deallus o deulu Mahli, fab Lefi, fab Israel, gyda'i feibion a'i frodyr, deunaw ohonynt i gyd;
19
hefyd Hasabeia, a chydag ef Eseia o deulu Merari, gyda'i frodyr a'u meibion, ugain ohonynt;
20
a dau gant ac ugain o weision y deml, yn unol threfn Dafydd a'i swyddogion, i gynorthwyo'r Lefiaid. Rhestrwyd hwy oll wrth eu henwau.
21
Ac yno wrth afon Ahafa cyhoeddais ympryd i ymostwng o flaen ein Duw, i weddo am siwrnai ddiogel i ni a'n plant a'n heiddo.
22
Yr oedd arnaf gywilydd gofyn i'r brenin am filwyr a marchogion i'n hamddiffyn yn erbyn gelynion ar y ffordd, am ein bod eisoes wedi dweud wrtho, "Y mae ein Duw yn rhoi cymorth i bawb sy'n ei geisio, ond daw grym ei lid yn erbyn pawb sy'n ei wadu."
23
Felly gwnaethom ympryd ac ymbil ar ein Duw am hyn, a gwrandawodd yntau arnom.
24
Yna neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, a hefyd Serebeia a Hasabeia, a deg o'u brodyr gyda hwy,
25
a throsglwyddo iddynt hwy yr arian a'r aur a'r llestri a roddwyd yn anrheg i du375? ein Duw gan y brenin a'i gynghorwyr a'i dywysogion a'r holl Israeliaid oedd gyda hwy.
26
Rhoddais iddynt chwe chant a hanner o dalentau arian, llestri arian gwerth can talent, a chan talent o aur,
27
ac ugain o flychau aur gwerth mil o ddrachmu, a dau lestr o bres melyn coeth, mor werthfawr ag aur.
28
A dywedais wrthynt, "Yr ydych chwi a'r llestri yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac offrwm gwirfoddol i ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid yw'r arian a'r aur.
29
Gwyliwch drostynt a'u cadw nes eu trosglwyddo i ystafelloedd tu375?'r ARGLWYDD yng ngu373?ydd penaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid a phennau-teuluoedd Israel sydd yn Jerwsalem."
30
Yna cymerodd yr offeiriaid a'r Lefiaid y swm o arian ac aur a'r llestri i'w dwyn i Jerwsalem i du375? ein Duw.
31
Ar y deuddegfed dydd o'r mis cyntaf cychwynasom o afon Ahafa i fynd i Jerwsalem, ac yr oedd ein Duw gyda ni, ac fe'n gwaredodd o law gelynion a lladron pen-ffordd.
32
Wedi cyrraedd Jerwsalem cawsom orffwys am dridiau.
33
Ac ar y pedwerydd dydd tros-glwyddwyd yr arian a'r aur a'r llestri yn nhu375? ein Duw i ofal Meremoth fab Ureia, yr offeiriad, ac Eleasar fab Phinees, ac yr oedd Josabad fab Jesua a Noadeia fab Binnui, y Lefiaid, gyda hwy.
34
Gwnaed cyfrif o bopeth wrth ei drosglwyddo, a'r un pryd gwnaed rhestr o'r rhoddion.
35
Offrymodd y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud boethoffrymau i Dduw Israel: deuddeg bustach dros holl Israel, naw deg a chwech o hyrddod, saith deg a saith o u373?yn, a deuddeg bwch yn aberth dros bechod; yr oedd y cwbl yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.
36
Hefyd rhoesant orchymyn y brenin i'w swyddogion a'i dywysogion yn nhalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a chael eu cefnogaeth i'r bobl ac i du375? Dduw.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10