bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezra 7
Ezra 7
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 8 →
1
Ar l hyn, yn nheyrnasiad Artaxerxes brenin Persia, daeth Esra i fyny o Fabilon; hwn oedd Esra fab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia,
2
fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub,
3
fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,
4
fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,
5
fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr archoffeiriad.
6
Yr oedd Esra yn ysgrifennydd hyddysg yng nghyfraith Moses, a roddwyd gan ARGLWYDD Dduw Israel; ac am ei fod yn derbyn ffafr gan yr ARGLWYDD ei Dduw, cafodd y cwbl a ddymunai gan y brenin.
7
Yn y seithfed flwyddyn i'r Brenin Artaxerxes, dychwelodd i Jerwsalem gyda rhai o'r Israeliaid ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid a'r cantorion a'r porthorion a gweision y deml;
8
a chyrhaeddodd Jerwsalem yn y pumed mis yn seithfed flwyddyn y brenin.
9
Yr oedd wedi cychwyn ar y daith o Fabilon ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, a chyrraedd Jerwsalem ar y dydd cyntaf o'r pumed mis; yr oedd Esra wedi cael ffafr gan ei Dduw,
10
oherwydd iddo ymroi i chwilio cyfraith yr ARGLWYDD a'i chadw, ac i ddysgu deddfau a chyfreithiau yn Israel.
11
Dyma gopi o'r llythyr a roes y Brenin Artaxerxes i Esra'r offeiriad a'r ysgrifennydd, un cyfarwydd chynnwys gorchmynion yr ARGLWYDD a'i ddeddfau i Israel:
12
"Artaxerxes brenin y brenhinoedd at Esra'r offeiriad, ysgrifennydd cyfraith Duw'r nefoedd, cyfarchion!
13
Yn awr dyma fy ngorchmynion i bwy bynnag yn fy nheyrnas o bobl Israel a'u hoffeiriaid a'u Lefiaid sy'n dymuno mynd gyda thi i Jerwsalem: caiff fynd.
14
Oherwydd fe'th anfonir gan y brenin a'i saith gynghorwr i wneud arolwg o Jwda a Jerwsalem ynglu375?n chyfraith dy Dduw, sydd dan dy ofal.
15
Dygi'r arian a'r aur a roddwyd yn wirfoddol gan y brenin a'i gynghorwyr i Dduw Israel, sydd 'i drigfan yn Jerwsalem,
16
a hefyd yr holl arian a'r aur a gei di trwy holl dalaith Babilon, ac offrymau gwirfoddol y bobl a'r offeiriaid a roddwyd at du375? eu Duw yn Jerwsalem.
17
'r arian yma gofala brynu teirw, hyrddod ac u373?yn, gyda'u bwydoffrwm a'u diodoffrwm, a'u haberthu ar allor tu375? eich Duw yn Jerwsalem.
18
gweddill yr arian a'r aur cei di a'th gymrodyr wneud fel y gwelwch orau, yn l ewyllys eich Duw.
19
Am y llestri a roddwyd i ti at wasanaeth tu375? dy Dduw, gosod hwy o'i flaen yn Jerwsalem.
20
A pha beth bynnag arall sy'n angenrheidiol i du375? dy Dduw, ac y disgwylir i ti ei roi, rho ef o storfa'r brenin.
21
Ac yr wyf fi, y Brenin Artaxerxes, yn rhoi'r gorchymyn hwn i holl drysoryddion talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates: Rhowch yn ddiymdroi bob peth a ofynnir ichwi gan Esra'r offeiriad, ysgrifennydd cyfraith Duw'r nefoedd,
22
hyd at gan talent o arian, can mesur yr un o wenith, gwin ac olew, a halen heb fesur.
23
Gwnewch bopeth ar gyfer tu375? Duw'r nefoedd yn union fel y mae Duw'r nefoedd wedi ei orchymyn, rhag iddo lidio yn erbyn teyrnas y brenin a'i feibion.
24
Yr ydym hefyd yn eich hysbysu nad yw'n gyfreithlon gosod treth, teyrnged na tholl ar neb o offeiriaid, Lefiaid, cantorion, porthorion, gweision na gweinidogion tu375? Dduw.
25
A thithau, Esra, yn unol 'r ddoethineb ddwyfol sydd gennyt, ethol swyddogion a barnwyr i farnu pawb yn Tu-hwnt-i'r-Ewffrates sy'n gwybod cyfraith dy Dduw, ac i ddysgu pawb sydd heb ei gwybod.
26
Pob un nad yw'n cadw cyfraith dy Dduw a chyfraith y brenin, dyger ef yn ddi-oed i farn, a'i ddedfrydu naill ai i farwolaeth neu i alltudiaeth neu ddirwy neu garchar."
27
Yna dywedodd Esra: "Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw ein hynafiaid, a symbylodd y brenin i harddu tu375?'r ARGLWYDD yn Jerwsalem,
28
ac a barodd i mi gael ffafr gan y brenin a'i gynghorwyr a'i bendefigion. Am fod yr ARGLWYDD fy Nuw yn fy nerthu, ymwrolais a chasglu rhai blaenllaw o blith yr Israeliaid i fynd gyda mi."
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10