bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezra 6
Ezra 6
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 7 →
1
Yna, ar orchymyn y Brenin Dareius, chwiliwyd yn yr archifau ym Mabilon lle cedwid y dogfennau.
2
Ac ym mhalas Ecbatana yn nhalaith Media cafwyd sgrl, a dyma'r cofnod oedd wedi ei ysgrifennu arni:
3
"Ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad gorchmynnodd y Brenin Cyrus fel hyn am du375? Dduw yn Jerwsalem: Ailadeilader y tu375? yn lle i aberthu ac i ddwyn poethoffrymau.
4
Ei uchder fydd trigain cufydd a'i led trigain cufydd, gyda thair rhes o gerrig mawr ac un rhes o goed newydd; taler y gost o'r drysorfa frenhinol.
5
Hefyd, dychweler i'r deml yn Jerwsalem lestri aur ac arian tu375? Dduw, a ddygodd Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem a'u cludo i Fabilon; dychweler pob un i'w le priodol yn nhu375? Dduw."
6
A dyfarniad y Brenin Dareius oedd: "Yn awr, Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Seth-arbosnai a'ch cefnogwyr, penaethiaid Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, cadwch draw oddi yno;
7
peidiwch ag ymyrryd gwaith tu375? Dduw; gadewch i bennaeth yr Iddewon a'u henuriaid ailgodi tu375? Dduw ar ei hen safle.
8
Ar fy ngorchymyn i, fel hyn yr ydych i gydweithredu henuriaid yr Iddewon i ailadeiladu tu375? Dduw: taler yn llawn ac yn ddiymdroi i'r dynion hyn dreth talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates allan o'r drysorfa frenhinol.
9
Rhodder iddynt bob dydd yn ddi-feth beth bynnag sy'n angenrheidiol i aberthu i Dduw'r nefoedd teirw, hyrddod, defaid, gwenith, halen, gwin ac olew
10
yn l gofynion yr offeiriaid yn Jerwsalem, fel y dygont ebyrth cymeradwy i Dduw'r nefoedd a gweddo dros y brenin a'i feibion.
11
Ac yr wyf yn gorchymyn, os bydd i unrhyw un ymyrryd 'r datganiad hwn, fod trawst i'w dynnu o'i du375? a'i godi, a'i fod yntau i'w grogi arno, a bod ei gartref i'w droi'n domen.
12
A bydded i'r Duw sydd wedi gosod ei enw yno ddymchwel pob brenin a chenedl sy'n beiddio ymyrryd hyn neu'n dinistrio tu375?'r Duw hwn yn Jerwsalem. Myfi, Dareius, sy'n rhoi'r gorchymyn hwn; rhaid ei gadw'n fanwl."
13
Yna gwnaeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr yn union fel yr oedd y Brenin Dareius wedi gorchymyn.
14
Trwy gymorth proffwydoliaeth Haggai'r proffwyd a Sechareia fab Ido, llwyddodd henuriaid yr Iddewon gyda'r adeiladu, a'i orffen yn l gorchymyn Duw Israel a gorchymyn Cyrus a Dareius ac Artaxerxes brenin Persia.
15
Gorffennwyd y tu375? hwn ar y trydydd o fis Adar, yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius.
16
A chysegrwyd tu375? Dduw mewn llawenydd gan yr Israeliaid, yr offeiriaid a'r Lefiaid a gweddill y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud.
17
Wrth gysegru tu375? Dduw, aberthwyd cant o deirw, dau gant o hyrddod, pedwar cant o u373?yn, a deuddeg bwch gafr, yn l nifer llwythau Israel, yn aberth dros bechod ar ran holl Israel.
18
Trefnwyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau a'r Lefiaid yn eu hadrannau ar gyfer gwasanaethu Duw yn Jerwsalem, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr Moses.
19
Ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf cadwodd y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud y Pasg.
20
Am fod pob un o'r offeiriaid a'r Lefiaid wedi ei buro'i hun, a'u bod i gyd yn bur, aberthwyd y Pasg ar gyfer pawb a ddaeth o'r gaethglud, a'u cyd-offeiriaid a hwy eu hunain.
21
Bwytawyd y Pasg gan yr Israeliaid a ddychwelodd o'r gaethglud a chan bawb oedd wedi ymwahanu oddi wrth aflendid y bobloedd oddi amgylch ac wedi dod atynt i geisio ARGLWYDD Dduw Israel.
22
Ac am saith diwrnod cadwasant u373?yl y Bara Croyw mewn llawenydd, oherwydd i'r ARGLWYDD beri llawenydd iddynt trwy droi calon brenin Asyria tuag atynt i'w cynorthwyo yng ngwaith tu375? Dduw, Duw Israel.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10