bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
John 1
John 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 2 →
1
Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair.
2
Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw.
3
Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod.
4
Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd.
5
Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef.
6
Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan.
7
Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo.
8
Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni.
9
Yr oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb, eisoes yn dod i'r byd.
10
Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu'r byd mohono.
11
Daeth i'w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono.
12
Ond cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw,
13
plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gu373?r, ond o Dduw.
14
A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad.
15
Y mae Ioan yn tystio amdano ac yn cyhoeddi: "Hwn oedd yr un y dywedais amdano, 'Y mae'r hwn sy'n dod ar f'l i wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.'"
16
O'i gyflawnder ef yr ydym ni oll wedi derbyn gras ar ben gras.
17
Oherwydd trwy Moses y rhoddwyd y Gyfraith, ond gras a gwirionedd, trwy Iesu Grist y daethant.
18
Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; yr unig Un, ac yntau'n Dduw, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a'i gwnaeth yn hysbys.
19
Dyma dystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid ato i ofyn iddo, "Pwy wyt ti?"
20
Addefodd ac ni wadodd, a dyma a addefodd: "Nid myfi yw'r Meseia."
21
Yna gofynasant iddo: "Beth, ynteu? Ai ti yw Elias?" "Nage," meddai. "Ai ti yw'r Proffwyd?" "Nage," atebodd eto.
22
Ar hynny dywedasant wrtho, "Pwy wyt ti? Rhaid i ni roi ateb i'r rhai a'n hanfonodd ni. Beth sydd gennyt i'w ddweud amdanat dy hun?"
23
"Myfi," meddai, "yw 'Llais un yn galw yn yr anialwch: "Unionwch ffordd yr Arglwydd"' fel y dywedodd y proffwyd Eseia."
24
Yr oeddent wedi eu hanfon gan y Phariseaid,
25
a holasant ef a gofyn iddo, "Pam, ynteu, yr wyt yn bedyddio, os nad wyt ti na'r Meseia nac Elias na'r Proffwyd?"
26
Atebodd Ioan hwy: "Yr wyf fi'n bedyddio du373?r, ond y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych chwi'n ei adnabod,
27
yr un sy'n dod ar f'l i, nad wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandal."
28
Digwyddodd hyn ym Methania, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle'r oedd Ioan yn bedyddio.
29
Trannoeth gwelodd Iesu'n dod tuag ato, a dywedodd, "Dyma Oen Duw, sy'n cymryd ymaith bechod y byd!
30
Hwn yw'r un y dywedais i amdano, 'Ar f'l i y mae gu373?r yn dod sydd wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.'
31
Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond deuthum i yn bedyddio du373?r er mwyn hyn, iddo ef gael ei amlygu i Israel."
32
A thystiodd Ioan fel hyn: "Gwelais yr Ysbryd yn disgyn o'r nef fel colomen, ac fe arhosodd arno ef.
33
Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond yr un a'm hanfonodd i fedyddio du373?r, dywedodd ef wrthyf, 'Pwy bynnag y gweli di'r Ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwn yw'r un sy'n bedyddio 'r Ysbryd Gln.'
34
Yr wyf finnau wedi gweld ac wedi dwyn tystiolaeth mai Mab Duw yw hwn."
35
Trannoeth yr oedd Ioan yn sefyll eto gyda dau o'i ddisgyblion,
36
ac wrth wylio Iesu'n cerdded heibio meddai, "Dyma Oen Duw!"
37
Clywodd ei ddau ddisgybl ef yn dweud hyn, ac aethant i ganlyn Iesu.
38
Troes Iesu, ac wrth eu gweld yn canlyn, dywedodd wrthynt, "Beth yr ydych yn ei geisio?" Dywedasant wrtho, "Rabbi," (ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Athro) "ble'r wyt ti'n aros?"
39
Dywedodd wrthynt, "Dewch i weld." Felly aethant a gweld lle'r oedd yn aros; a'r diwrnod hwnnw arosasant gydag ef. Yr oedd hi tua phedwar o'r gloch y prynhawn.
40
Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a aeth i ganlyn Iesu ar l gwrando ar Ioan.
41
Y peth cyntaf a wnaeth hwn oedd cael hyd i'w frawd, Simon, a dweud wrtho, "Yr ydym wedi darganfod y Meseia" (hynny yw, o'i gyfieithu, Crist).
42
Daeth ag ef at Iesu. Edrychodd Iesu arno a dywedodd, "Ti yw Simon fab Ioan; dy enw fydd Ceffas" (enw a gyfieithir Pedr).
43
Trannoeth, penderfynodd Iesu ymadael a mynd i Galilea. Cafodd hyd i Philip, ac meddai wrtho, "Canlyn fi."
44
Gu373?r o Bethsaida, tref Andreas a Pedr, oedd Philip.
45
Cafodd Philip hyd i Nathanael a dweud wrtho, "Yr ydym wedi darganfod y gu373?r yr ysgrifennodd Moses yn y Gyfraith amdano, a'r proffwydi hefyd, Iesu fab Joseff o Nasareth."
46
Dywedodd Nathanael wrtho, "A all dim da ddod o Nasareth?" "Tyrd i weld," ebe Philip wrtho.
47
Gwelodd Iesu Nathanael yn dod tuag ato, ac meddai amdano, "Dyma Israeliad gwerth yr enw, heb ddim twyll ynddo."
48
Gofynnodd Nathanael iddo, "Sut yr wyt yn f'adnabod i?" Atebodd Iesu ef: "Gwelais di cyn i Philip alw arnat, pan oeddit dan y ffigysbren."
49
"Rabbi," meddai Nathanael wrtho, "ti yw Mab Duw, ti yw Brenin Israel."
50
Atebodd Iesu ef: "A wyt yn credu oherwydd i mi ddweud wrthyt fy mod wedi dy weld dan y ffigysbren? Cei weld pethau mwy na hyn."
51
Ac meddai wrtho, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, cewch weld y nef wedi agor, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn."
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21