bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
John 17
John 17
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 18 →
1
Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, cododd Iesu ei lygaid i'r nef a dywedodd: "O Dad, y mae'r awr wedi dod. Gogonedda dy Fab, er mwyn i'r Mab dy ogoneddu di.
2
Oherwydd rhoddaist iddo ef awdurdod ar bob un, awdurdod i roi bywyd tragwyddol i bawb yr wyt ti wedi eu rhoi iddo ef.
3
A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.
4
Yr wyf fi wedi dy ogoneddu ar y ddaear trwy orffen y gwaith a roddaist imi i'w wneud.
5
Yn awr, O Dad, gogonedda di fyfi ger dy fron dy hun 'r gogoniant oedd i mi ger dy fron cyn bod y byd.
6
"Yr wyf wedi amlygu dy enw i'r rhai a roddaist imi allan o'r byd. Eiddot ti oeddent, ac fe'u rhoddaist i mi. Y maent wedi cadw dy air di.
7
Y maent yn gwybod yn awr mai oddi wrthyt ti y mae popeth a roddaist i mi.
8
Oherwydd yr wyf wedi rhoi iddynt hwy y geiriau a roddaist ti i mi, a hwythau wedi eu derbyn, a chanfod mewn gwirionedd mai oddi wrthyt ti y deuthum, a chredu mai ti a'm hanfonodd i.
9
Drostynt hwy yr wyf fi'n gweddo. Nid dros y byd yr wyf yn gweddo, ond dros y rhai a roddaist imi, oherwydd eiddot ti ydynt.
10
Y mae popeth sy'n eiddof fi yn eiddot ti, a'r eiddot ti yn eiddof fi. Ac yr wyf fi wedi fy ngogoneddu ynddynt hwy.
11
Nid wyf fi mwyach yn y byd, ond y maent hwy yn y byd. Yr wyf fi'n dod atat ti. O Dad sanctaidd, cadw hwy'n ddiogel trwy dy enw, yr enw a roddaist i mi, er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un.
12
Pan oeddwn gyda hwy, yr oeddwn i'n eu cadw'n ddiogel trwy dy enw, yr enw a roddaist i mi. Gwyliais drostynt, ac ni chollwyd yr un ohonynt, ar wahn i fab colledigaeth, i'r Ysgrythur gael ei chyflawni.
13
Ond yn awr yr wyf yn dod atat ti, ac yr wyf yn llefaru'r geiriau hyn yn y byd er mwyn i'm llawenydd i fod ganddynt yn gyflawn ynddynt hwy eu hunain.
14
Yr wyf fi wedi rhoi iddynt dy air di, ac y mae'r byd wedi eu casu hwy, am nad ydynt yn perthyn i'r byd, fel nad wyf finnau'n perthyn i'r byd.
15
Nid wyf yn gweddo ar i ti eu cymryd allan o'r byd, ond ar i ti eu cadw'n ddiogel rhag yr Un drwg.
16
Nid ydynt yn perthyn i'r byd, fel nad wyf finnau'n perthyn i'r byd.
17
Cysegra hwy yn y gwirionedd. Dy air di yw'r gwirionedd.
18
Fel yr anfonaist ti fi i'r byd, yr wyf fi'n eu hanfon hwy i'r byd.
19
Ac er eu mwyn hwy yr wyf fi'n fy nghysegru fy hun, er mwyn iddynt hwythau fod wedi eu cysegru yn y gwirionedd.
20
"Ond nid dros y rhain yn unig yr wyf yn gweddo, ond hefyd dros y rhai fydd yn credu ynof fi trwy eu gair hwy.
21
Rwy'n gweddo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O Dad, ynof fi a minnau ynot ti, iddynt hwy hefyd fod ynom ni, er mwyn i'r byd gredu mai tydi a'm hanfonodd i.
22
Yr wyf fi wedi rhoi iddynt hwy y gogoniant a roddaist ti i mi, er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un:
23
myfi ynddynt hwy, a thydi ynof fi, a hwythau felly wedi eu dwyn i undod perffaith, er mwyn i'r byd wybod mai tydi a'm hanfonodd i, ac i ti eu caru hwy fel y ceraist fi.
24
O Dad, am y rhai yr wyt ti wedi eu rhoi i mi, fy nymuniad yw iddynt hwy fod gyda mi lle'r wyf fi, er mwyn iddynt weld fy ngogoniant, y gogoniant a roddaist i mi oherwydd i ti fy ngharu cyn seilio'r byd.
25
O Dad cyfiawn, nid yw'r byd yn dy adnabod, ond yr wyf fi'n dy adnabod, ac y mae'r rhain yn gwybod mai tydi a'm hanfonodd i.
26
Yr wyf wedi gwneud dy enw di yn hysbys iddynt, ac fe wnaf hynny eto, er mwyn i'r cariad 'r hwn yr wyt wedi fy ngharu i fod ynddynt hwy, ac i minnau fod ynddynt hwy."
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21