bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
John 21
John 21
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
1
Ar l hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i'w ddisgyblion, ar lan Mr Tiberias. A dyma sut y gwnaeth hynny.
2
Yr oedd Simon Pedr, a Thomas, a elwir Didymus, a Nathanael o Gana Galilea, a meibion Sebedeus, a dau arall o'i ddisgyblion, i gyd gyda'i gilydd.
3
A dyma Simon Pedr yn dweud wrth y lleill, "Rwy'n mynd i bysgota." Atebasant ef, "Rydym ninnau'n dod gyda thi." Aethant allan, a mynd i mewn i'r cwch. Ond ni ddaliasant ddim y noson honno.
4
Pan ddaeth y bore, safodd Iesu ar y lan, ond nid oedd y disgyblion yn gwybod mai Iesu ydoedd.
5
Dyma Iesu felly'n gofyn iddynt, "Does gennych ddim pysgod, fechgyn?" "Nac oes," atebasant ef.
6
Meddai yntau wrthynt, "Bwriwch y rhwyd i'r ochr dde i'r cwch, ac fe gewch helfa." Gwnaethant felly, ac ni allent dynnu'r rhwyd i mewn gan gymaint y pysgod oedd ynddi.
7
A dyma'r disgybl hwnnw yr oedd Iesu'n ei garu yn dweud wrth Pedr, "Yr Arglwydd yw." Yna, pan glywodd Simon Pedr mai'r Arglwydd ydoedd, clymodd ei wisg uchaf amdano (oherwydd yr oedd wedi tynnu ei ddillad), a neidiodd i mewn i'r mr.
8
Daeth y disgyblion eraill yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd yn llawn o bysgod; nid oeddent ymhell o'r lan, dim ond rhyw gan medr.
9
Wedi iddynt lanio, gwelsant dn golosg wedi ei osod, a physgod arno, a bara.
10
Meddai Iesu wrthynt, "Dewch rhai o'r pysgod yr ydych newydd eu dal."
11
Dringodd Simon Pedr i'r cwch, a thynnu'r rhwyd i'r lan yn llawn o bysgod braf, cant pum deg a thri ohonynt. Ac er bod cymaint ohonynt, ni thorrodd y rhwyd.
12
"Dewch," meddai Iesu wrthynt, "cymerwch frecwast." Ond nid oedd neb o'r disgyblion yn beiddio gofyn iddo, "Pwy wyt ti?" Yr oeddent yn gwybod mai yr Arglwydd ydoedd.
13
Daeth Iesu atynt, a chymerodd y bara a'i roi iddynt, a'r pysgod yr un modd.
14
Dyma, yn awr, y drydedd waith i Iesu ymddangos i'w ddisgyblion ar l iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw.
15
Yna, wedi iddynt gael brecwast, gofynnodd Iesu i Simon Pedr, "Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i yn fwy na'r rhain?" Atebodd ef, "Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu di." Meddai Iesu wrtho, "Portha fy u373?yn."
16
Wedyn gofynnodd iddo yr ail waith, "Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?" "Ydwyf, Arglwydd," meddai Pedr wrtho, "fe wyddost ti fy mod yn dy garu di." Meddai Iesu wrtho, "Bugeilia fy nefaid."
17
Gofynnodd iddo y drydedd waith, "Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?" Aeth Pedr yn drist am ei fod wedi gofyn iddo y drydedd waith, "A wyt ti'n fy ngharu i?" Ac meddai wrtho, "Arglwydd, fe wyddost ti bob peth, ac rwyt ti'n gwybod fy mod yn dy garu di." Dywedodd Iesu wrtho, "Portha fy nefaid.
18
Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, pan oeddit yn ifanc, yr oeddit yn dy wregysu dy hunan, ac yn mynd lle bynnag y mynnit. Ond pan fyddi'n hen, byddi'n estyn dy ddwylo i rywun arall dy wregysu, a mynd thi lle nad wyt yn mynnu."
19
Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth yr oedd Pedr i ogoneddu Duw trwyddi. Ac wedi iddo ddweud hyn, meddai wrth Pedr, "Canlyn fi."
20
Trodd Pedr, a gwelodd y disgybl yr oedd Iesu'n ei garu yn eu canlyn yr un oedd wedi pwyso'n l ar fynwes Iesu yn ystod y swper, ac wedi gofyn iddo, "Arglwydd, pwy yw'r un sy'n mynd i'th fradychu di?"
21
Pan welodd Pedr hwn, felly, gofynnodd i Iesu, "Arglwydd, beth am hwn?"
22
Atebodd Iesu ef, "Os byddaf yn dymuno iddo ef aros hyd nes y dof fi, beth yw hynny i ti? Canlyn di fi."
23
Aeth y gair yma ar led ymhlith ei ddilynwyr, a thybiwyd nad oedd y disgybl hwnnw i farw. Ond ni ddywedodd Iesu wrtho nad oedd i farw, ond, "Os byddaf yn dymuno iddo aros hyd nes y dof fi, beth yw hynny i ti?"
24
Hwn yw'r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac sydd wedi ysgrifennu'r pethau hyn. Ac fe wyddom ni fod ei dystiolaeth ef yn wir.
25
Y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth Iesu. Petai pob un o'r rhain yn cael ei gofnodi, ni byddai'r byd, i'm tyb i, yn ddigon mawr i ddal y llyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21