bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
John 12
John 12
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
1
Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth Iesu i Fethania, lle'r oedd Lasarus yn byw, y dyn yr oedd wedi ei godi oddi wrth y meirw.
2
Yno gwnaethpwyd iddo swper; yr oedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd gydag ef wrth y bwrdd.
3
A chymerodd Mair fesur o ennaint costfawr, nard pur, ac eneiniodd draed Iesu a'u sychu 'i gwallt. A llanwyd y tu375? gan bersawr yr ennaint.
4
A dyma Jwdas Iscariot, un o'i ddisgyblion, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud,
5
"Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chant o ddarnau arian, a'i roi i'r tlodion?"
6
Ond fe ddywedodd hyn, nid am fod gofal ganddo am y tlodion, ond am mai lleidr ydoedd, yn cymryd o'r cyfraniadau yn y god arian oedd yn ei ofal.
7
"Gad lonydd iddi," meddai Iesu, "er mwyn iddi gadw'r ddefod ar gyfer dydd fy nghladdedigaeth.
8
Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond nid wyf fi gyda chwi bob amser."
9
Daeth tyrfa fawr o'r Iddewon i wybod ei fod yno, a daethant ato, nid o achos Iesu yn unig, ond er mwyn gweld Lasarus hefyd, y dyn yr oedd ef wedi ei godi oddi wrth y meirw.
10
Ond gwnaeth y prif offeiriaid gynllwyn i ladd Lasarus hefyd,
11
gan fod llawer o'r Iddewon, o'i achos ef, yn gwrthgilio ac yn credu yn Iesu.
12
Trannoeth, clywodd y dyrfa fawr a oedd wedi dod i'r u373?yl fod Iesu'n dod i Jerwsalem.
13
Cymerasant ganghennau o'r palmwydd ac aethant allan i'w gyfarfod, gan weiddi: "Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel."
14
Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae'n ysgrifenedig:
15
"Paid ag ofni, ferch Seion; wele dy frenin yn dod, yn eistedd ar ebol asen."
16
Ar y cyntaf ni ddeallodd y disgyblion ystyr y pethau hyn, ond wedi i Iesu gael ei ogoneddu, cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt eu gwneud iddo.
17
Yr oedd y dyrfa, a oedd gydag ef pan alwodd Lasarus o'r bedd a'i godi o blith y meirw, yn tystiolaethu am hynny.
18
Dyna pam yr aeth tyrfa'r u373?yl i'w gyfarfod yr oeddent wedi clywed am yr arwydd yma yr oedd wedi ei wneud.
19
Gan hynny, dywedodd y Phariseaid wrth ei gilydd, "Edrychwch, nid ydych yn llwyddo o gwbl. Aeth y byd i gyd ar ei l ef."
20
Ymhlith y bobl oedd yn dod i fyny i addoli ar yr u373?yl, yr oedd rhyw Roegiaid.
21
Daeth y rhain at Philip, a oedd o Bethsaida yng Ngalilea, a gofyn iddo, "Syr, fe hoffem weld Iesu."
22
Aeth Philip i ddweud wrth Andreas; ac aeth Andreas a Philip i ddweud wrth Iesu.
23
A dyma Iesu'n eu hateb. "Y mae'r awr wedi dod," meddai, "i Fab y Dyn gael ei ogoneddu.
24
Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os nad yw'r gronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear ac yn marw, y mae'n aros ar ei ben ei hun; ond os yw'n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth.
25
Y mae'r sawl sy'n caru ei einioes yn ei cholli; a'r sawl sy'n casu ei einioes yn y byd hwn, bydd yn ei chadw i fywyd tragwyddol.
26
Os yw rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle bynnag yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwasanaethwr. Os yw rhywun yn fy ngwasanaethu i, fe gaiff ei anrhydeddu gan y Tad.
27
"Yn awr y mae fy enaid mewn cynnwrf. Beth a ddywedaf? 'O Dad, gwared fi rhag yr awr hon'? Na, i'r diben hwn y deuthum i'r awr hon.
28
O Dad, gogonedda dy enw." Yna daeth llais o'r nef: "Yr wyf wedi ei ogoneddu, ac fe'i gogoneddaf eto."
29
Pan glywodd y dyrfa oedd yn sefyll gerllaw, dechreusant ddweud mai taran oedd; dywedodd eraill, "Angel sydd wedi llefaru wrtho."
30
Atebodd Iesu, "Nid er fy mwyn i, ond er eich mwyn chwi, y daeth y llais hwn.
31
Dyma awr barnu'r byd hwn; yn awr y mae tywysog y byd hwn i gael ei fwrw allan.
32
A minnau, os caf fy nyrchafu oddi ar y ddaear, fe dynnaf bawb ataf fy hun."
33
Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros.
34
Yna atebodd y dyrfa ef: "Yr ydym ni wedi dysgu o'r Gyfraith fod y Meseia i aros am byth. Sut yr wyt ti'n dweud, felly, bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu? Pwy yw'r Mab y Dyn yma?"
35
Dywedodd Iesu wrthynt, "Am ychydig amser eto y bydd y goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra bo'r goleuni gennych, rhag i'r tywyllwch eich goddiweddyd. Nid yw'r sawl sy'n rhodio yn y tywyllwch yn gwybod lle y mae'n mynd.
36
Tra bo'r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, ac felly plant y goleuni fyddwch." Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, aeth Iesu i ffwrdd ac ymguddio rhagddynt.
37
Er iddo wneud cynifer o arwyddion yng ngu373?ydd y bobl, nid oeddent yn credu ynddo.
38
Cyflawnwyd felly y gair a ddywedodd y proffwyd Eseia: "Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym? I bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?"
39
O achos hyn ni allent gredu, oherwydd dywedodd Eseia beth arall:
40
"Y mae ef wedi dallu eu llygaid, ac wedi tywyllu eu deall, rhag iddynt weld 'u llygaid, a deall 'u meddwl, a throi'n l, i mi eu hiachu."
41
Dywedodd Eseia hyn am iddo weld ei ogoniant; amdano ef yr oedd yn llefaru.
42
Eto i gyd fe gredodd llawer hyd yn oed o'r llywodraethwyr ynddo ef; ond o achos y Phariseaid ni fynnent ei arddel, rhag iddynt gael eu torri allan o'r synagog.
43
Dewisach oedd ganddynt glod gan bobl na chlod gan Dduw.
44
Cyhoeddodd Iesu: "Y mae'r sawl sy'n credu ynof fi yn credu nid ynof fi ond yn yr un a'm hanfonodd i.
45
Ac y mae'r sawl sy'n fy ngweld i yn gweld yr un a'm hanfonodd i.
46
Yr wyf fi wedi dod i'r byd yn oleuni, ac felly nid yw neb sy'n credu ynof fi yn aros yn y tywyllwch.
47
Os yw rhywun yn clywed fy ngeiriau i ac yn gwrthod eu cadw, nid myfi sy'n ei farnu, oherwydd ni ddeuthum i farnu'r byd ond i achub y byd.
48
Y mae gan y sawl sy'n fy ngwrthod i, ac yn peidio derbyn fy ngeiriau, un sydd yn ei farnu. Bydd y gair hwnnw a leferais i yn ei farnu yn y dydd olaf.
49
Oherwydd nid ohonof fy hunan y lleferais, ond y Tad ei hun, hwnnw a'm hanfonodd i, sydd wedi rhoi gorchymyn i mi beth a ddywedaf a beth a lefaraf.
50
A gwn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn yr wyf fi'n ei lefaru, felly, rwy'n ei lefaru yn union fel y mae'r Tad wedi dweud wrthyf."
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21