bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Luke 13
Luke 13
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 14 →
1
Yr un adeg, daeth rhywrai a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed 'u hebyrth.
2
Atebodd ef hwy, "A ydych chwi'n tybio fod y rhain yn waeth pechaduriaid na'r holl Galileaid eraill, am iddynt ddioddef hyn?
3
Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd.
4
Neu'r deunaw hynny y syrthiodd y tu373?r arnynt yn Siloam a'u lladd, a ydych chwi'n tybio fod y rhain yn waeth troseddwyr na holl drigolion eraill Jerwsalem?
5
Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd."
6
Adroddodd y ddameg hon: "Yr oedd gan rywun ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan. Daeth i chwilio am ffrwyth arno, ac ni chafodd ddim.
7
Ac meddai wrth y gwinllannwr, 'Ers tair blynedd bellach yr wyf wedi bod yn dod i geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, a heb gael dim. Am hynny tor ef i lawr; pam y caiff dynnu maeth o'r pridd?'
8
Ond atebodd ef, 'Meistr, gad iddo eleni eto, imi balu o'i gwmpas a'i wrteithio.
9
Ac os daw ffrwyth y flwyddyn nesaf, popeth yn iawn; onid e, cei ei dorri i lawr.'"
10
Yr oedd yn dysgu yn un o'r synagogau ar y Saboth.
11
Yr oedd yno wraig oedd ers deunaw mlynedd yng ngafael ysbryd oedd wedi bod yn ei gwanychu nes ei bod yn wargrwm ac yn hollol analluog i sefyll yn syth.
12
Pan welodd Iesu hi galwodd arni, "Wraig, yr wyt wedi dy waredu o'th wendid."
13
Yna dododd ei ddwylo arni, ac ar unwaith ymunionodd drachefn, a dechrau gogoneddu Duw.
14
Ond yr oedd arweinydd y synagog yn ddig fod Iesu wedi iachu ar y Saboth, ac meddai wrth y dyrfa, "Y mae chwe diwrnod gwaith; dewch i'ch iachu ar y dyddiau hynny, ac nid ar y dydd Saboth."
15
Atebodd yr Arglwydd ef, "Chwi ragrithwyr, onid yw pob un ohonoch ar y Saboth yn gollwng ei ych neu ei asyn o'r preseb ac yn mynd ag ef allan i'r du373?r?
16
Ond dyma un o ferched Abraham, a fu yn rhwymau Satan ers deunaw mlynedd; a ddywedwch na ddylasid ei rhyddhau hi o'r rhwymyn hwn ar y dydd Saboth?"
17
Wrth iddo ddweud hyn, codwyd cywilydd ar ei holl wrthwynebwyr, a llawenychodd y dyrfa i gyd oherwydd ei holl weithredoedd gogoneddus.
18
Meddai gan hynny, "I beth y mae teyrnas Dduw yn debyg, ac i beth y cyffelybaf hi?
19
Y mae'n debyg i hedyn mwstard; y mae rhywun yn ei gymryd ac yn ei fwrw i'w ardd, ac y mae'n tyfu ac yn dod yn goeden, ac y mae adar yr awyr yn nythu yn ei changhennau."
20
Ac meddai eto, "I beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?
21
Y mae'n debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl."
22
Yr oedd yn mynd trwy'r trefi a'r pentrefi gan ddysgu, ar ei ffordd i Jerwsalem.
23
Meddai rhywun wrtho, "Arglwydd, ai ychydig yw'r rhai sy'n cael eu hachub?" Ac meddai ef wrthynt,
24
"Ymegnwch i fynd i mewn trwy'r drws cul, oherwydd rwy'n dweud wrthych y bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ac yn methu.
25
Unwaith y bydd meistr y tu375? wedi codi a chau'r drws, gallwch chwithau sefyll y tu allan a churo ar y drws, gan ddweud, 'Arglwydd, agor inni'; ond bydd ef yn eich ateb, 'Ni wn o ble'r ydych.'
26
Yna dechreuwch ddweud, 'Buom yn bwyta ac yn yfed gyda thi, a buost ti yn dysgu yn ein strydoedd ni.'
27
A dywed ef wrthych, 'Ni wn o ble'r ydych. Ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr oll.'
28
Bydd yno wylo a rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau'n cael eich bwrw allan.
29
A daw rhai o'r dwyrain a'r gorllewin ac o'r gogledd a'r de, a chymryd eu lle yn y wledd yn nheyrnas Dduw.
30
Ac yn wir, bydd rhai sy'n olaf yn flaenaf, a rhai sy'n flaenaf yn olaf."
31
Y pryd hwnnw, daeth rhai Phariseaid ato a dweud wrtho, "Dos i ffwrdd oddi yma, oherwydd y mae Herod 'i fryd ar dy ladd di."
32
Meddai ef wrthynt, "Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, 'Heddiw ac yfory byddaf yn bwrw allan gythreuliaid ac yn iachu, a'r trydydd dydd cyrhaeddaf gyflawniad fy ngwaith.'
33
Eto, heddiw ac yfory a thrennydd y mae'n rhaid imi fynd ar fy nhaith, oherwydd ni ddichon i broffwyd farw y tu allan i Jerwsalem.
34
Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae ir yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch.
35
Wele, y mae eich tu375? yn cael ei adael yn anghyfannedd. Ac rwy'n dweud wrthych, ni chewch fy ngweld hyd y dydd pan ddywedwch, 'Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.'"
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24