bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Luke 17
Luke 17
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
1
Dywedodd wrth ei ddisgyblion, "Y mae achosion cwymp yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol amdanynt;
2
byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r mr maen melin ynghrog am ei wddf, nag iddo fod yn achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn.
3
Cymerwch ofal. Os pecha dy gyfaill, cerydda ef; os edifarha, maddau iddo;
4
os pecha yn dy erbyn saith gwaith mewn diwrnod, ac eto troi'n l atat saith gwaith gan ddweud, 'Y mae'n edifar gennyf', maddau iddo."
5
Meddai'r apostolion wrth yr Arglwydd, "Cryfha ein ffydd."
6
Ac meddai'r Arglwydd, "Pe bai gennych ffydd gymaint hedyn mwstard, fe allech ddweud wrth y forwydden hon, 'Coder dy wreiddiau a phlanner di yn y mr', a byddai'n ufuddhau i chwi.
7
"Os oes gan un ohonoch was sy'n aredig neu'n bugeilio, a fydd yn dweud wrtho pan ddaw i mewn o'r caeau, 'Tyrd yma ar unwaith a chymer dy le wrth y bwrdd'?
8
Na, yr hyn a ddywed fydd, 'Paratoa swper imi; torcha dy wisg a gweina arnaf nes imi orffen bwyta ac yfed; ac wedyn cei fwyta ac yfed dy hun.'
9
A yw'n diolch i'w was am gyflawni'r gorchmynion a gafodd?
10
Felly chwithau; pan fyddwch wedi cyflawni'r holl orchmynion a gawsoch, dywedwch, 'Gweision ydym, heb unrhyw deilyngdod; cyflawni ein dyletswydd a wnaethom.'"
11
Yr oedd ef, ar ei ffordd i Jerwsalem, yn mynd trwy'r wlad rhwng Samaria a Galilea,
12
ac yn mynd i mewn i ryw bentref, pan ddaeth deg o ddynion gwahanglwyfus i gyfarfod ag ef. Safasant bellter oddi wrtho
13
a chodi eu lleisiau arno: "Iesu, feistr, trugarha wrthym."
14
Gwelodd ef hwy ac meddai wrthynt, "Ewch i'ch dangos eich hunain i'r offeiriaid." Ac ar eu ffordd yno, fe'u glanhawyd hwy.
15
Ac un ohonynt, pan welodd ei fod wedi ei iachu, a ddychwelodd gan ogoneddu Duw llais uchel.
16
Syrthiodd ar ei wyneb wrth draed Iesu gan ddiolch iddo; a Samariad oedd ef.
17
Atebodd Iesu, "Oni lanhawyd y deg? Ble mae'r naw?
18
Ai'r estron hwn yn unig a gafwyd i ddychwelyd ac i roi gogoniant i Dduw?"
19
Yna meddai wrtho, "Cod, a dos ar dy hynt; dy ffydd sydd wedi dy iachu di."
20
Gofynnwyd iddo gan y Phariseaid pryd y deuai teyrnas Dduw. Atebodd hwy, "Nid rhywbeth i wylio amdano yw dyfodiad teyrnas Dduw.
21
Ni bydd pobl yn dweud, 'Dyma hi', neu 'Dacw hi'; edrychwch, y mae teyrnas Dduw yn eich plith chwi."
22
Ac meddai wrth ei ddisgyblion, "Daw dyddiau pan fyddwch yn dyheu am gael gweld un o ddyddiau Mab y Dyn, ac ni welwch mohono.
23
Dywedant wrthych, 'Dacw ef', neu 'Dyma ef'; peidiwch mynd, peidiwch rhedeg ar eu hl.
24
Oherwydd fel y fellten sy'n fflachio o'r naill gwr o'r nef hyd y llall, felly y bydd Mab y Dyn yn ei ddydd ef.
25
Ond yn gyntaf y mae'n rhaid iddo ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan y genhedlaeth hon.
26
Ac fel y bu hi yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd hi yn nyddiau Mab y Dyn:
27
yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn cymryd gwragedd, yn cael gwu375?r, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch ac y daeth y dilyw a difa pawb.
28
Fel y bu hi yn nyddiau Lot: yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;
29
ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, fe lawiodd tn a brwmstan o'r nef a difa pawb.
30
Yn union felly y bydd hi yn y dydd y datguddir Mab y Dyn.
31
Y dydd hwnnw, os bydd rhywun ar y to, a'i bethau yn y tu375?, peidied mynd i lawr i'w cipio; a'r un modd peidied neb fydd yn y cae throi yn ei l.
32
Cofiwch wraig Lot.
33
Pwy bynnag a gais gadw ei fywyd ei hun, fe'i cyll, a phwy bynnag a'i cyll, fe'i ceidw yn fyw.
34
Rwy'n dweud wrthych, y nos honno bydd dau mewn un gwely; cymerir y naill a gadewir y llall.
35
Bydd dwy wraig yn malu yn yr un lle; cymerir y naill a gadewir y llall."
36
[{cf15i Bydd dau yn y cae; cymerir y naill a gadewir y llall.}]
37
Ac atebasant hwythau ef, "Ble, Arglwydd?" Meddai ef wrthynt, "Lle bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid."
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24