bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Luke 16
Luke 16
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 17 →
1
Dywedodd wrth ei ddisgyblion hefyd, "Yr oedd dyn cyfoethog a chanddo oruchwyliwr. Achwynwyd wrth ei feistr fod hwn yn gwastraffu ei eiddo ef.
2
Galwodd ef ato a dweud wrtho, 'Beth yw'r hanes hwn amdanat? Dyro imi gyfrifon dy oruchwyliaeth, oherwydd ni elli gadw dy swydd bellach.'
3
Yna meddai'r goruchwyliwr wrtho'i hun, 'Beth a wnaf fi? Y mae fy meistr yn cymryd fy swydd oddi arnaf. Nid oes gennyf mo'r nerth i labro, ac y mae arnaf gywilydd cardota.
4
Fe wn i beth a wnaf i gael croeso i gartrefi pobl pan ddiswyddir fi.'
5
Galwodd ato bob un o ddyledwyr ei feistr, ac meddai wrth y cyntaf, 'Faint sydd arnat i'm meistr?'
6
Atebodd yntau, 'Mil o fesurau o olew olewydd.' 'Cymer dy gyfrif,' meddai ef, 'eistedd i lawr, ac ysgrifenna ar unwaith "bum cant."'
7
Yna meddai wrth un arall, 'A thithau, faint sydd arnat ti?' Atebodd yntau, 'Mil o fesurau o rawn.' 'Cymer dy gyfrif,' meddai ef, 'ac ysgrifenna "wyth gant."'
8
Cymeradwyodd y meistr y goruchwyliwr anonest am iddo weithredu yn gall; oherwydd y mae plant y byd hwn yn gallach na phlant y goleuni yn eu hymwneud 'u tebyg.
9
Ac rwyf fi'n dweud wrthych, gwnewch gyfeillion i chwi eich hunain o'r Mamon anonest, er mwyn i chwi gael croeso i'r tragwyddol bebyll pan ddaw dydd Mamon i ben.
10
Y mae rhywun sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, a'r un sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd.
11
Gan hynny, os na fuoch yn gywir wrth drin y Mamon anonest, pwy a ymddirieda i chwi y gwir olud?
12
Ac os na fuoch yn gywir wrth drin eiddo pobl eraill, pwy a rydd i chwi eich eiddo eich hunain?
13
Ni all unrhyw was wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon."
14
Yr oedd y Phariseaid, sy'n bobl ariangar, yn gwrando ar hyn oll ac yn ei watwar.
15
Ac meddai wrthynt, "Chwi yw'r rhai sy'n ceisio eu cyfiawnhau eu hunain yng ngolwg y cyhoedd, ond y mae Duw yn adnabod eich calonnau; oherwydd yr hyn sydd aruchel yng ngolwg y cyhoedd, ffieiddbeth yw yng ngolwg Duw.
16
Y Gyfraith a'r proffwydi oedd mewn grym hyd at Ioan; oddi ar hynny, y mae'r newydd da am deyrnas Dduw yn cael ei gyhoeddi, a phawb yn ceisio mynediad iddi trwy drais.
17
Ond byddai'n haws i'r nef a'r ddaear ddarfod nag i fanylyn lleiaf y Gyfraith golli ei rym.
18
Y mae pob un sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall yn godinebu, ac y mae'r dyn sy'n priodi gwraig a ysgarwyd gan ei gu373?r yn godinebu.
19
"Yr oedd dyn cyfoethog oedd yn arfer gwisgo porffor a lliain main, ac yn gwledda'n wych bob dydd.
20
Wrth ei ddrws gorweddai dyn tlawd, o'r enw Lasarus, yn llawn cornwydydd,
21
ac yn dyheu am wneud pryd o'r hyn a syrthiai oddi ar fwrdd y dyn cyfoethog; ac yn wir byddai'r cu373?n yn dod i lyfu ei gornwydydd.
22
Bu farw'r dyn tlawd, a dygwyd ef ymaith gan yr angylion i wledda wrth ochr Abraham. Bu farw'r dyn cyfoethog yntau, a chladdwyd ef.
23
Yn Hades, ac yntau mewn poen arteithiol, cododd ei lygaid a gweld Abraham o bell, a Lasarus wrth ei ochr.
24
A galwodd, 'Abraham, fy nhad, trugarha wrthyf; anfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn du373?r ac i oeri fy nhafod, oherwydd yr wyf mewn ingoedd yn y tn hwn.'
25
'Fy mhlentyn,' meddai Abraham, 'cofia iti dderbyn dy wynfyd yn ystod dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; yn awr y mae ef yma yn cael ei ddiddanu, a thithau yn dioddef mewn ingoedd.
26
Heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi y mae agendor llydan wedi ei osod, rhag i neb a ddymunai hynny groesi oddi yma atoch chwi, neu gyrraedd oddi yna atom ni.'
27
Atebodd ef, 'Os felly, fy nhad, rwy'n erfyn arnat ei anfon ef i du375? fy nhad,
28
at y pum brawd sydd gennyf, i'w rhybuddio am y cyfan, rhag iddynt hwythau ddod i'w harteithio yn y lle hwn.'
29
Ond dywedodd Abraham, 'Y mae Moses a'r proffwydi ganddynt; dylent wrando arnynt hwy.'
30
'Nage, Abraham, fy nhad,' atebodd ef, 'ond os rhywun atynt oddi wrth y meirw, fe edifarhnt.'
31
Ond meddai ef wrtho, 'Os nad ydynt yn gwrando ar Moses a'r proffwydi, yna ni chnt eu hargyhoeddi hyd yn oed os atgyfoda rhywun o blith y meirw.'"
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24