bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Luke 21
Luke 21
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
1
Cododd ei lygaid a gweld pobl gyfoethog yn rhoi eu rhoddion i mewn yng nghist y drysorfa.
2
Yna gwelodd wraig weddw dlawd yn rhoi dau ddarn bychan o bres ynddi,
3
ac meddai, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb.
4
Oherwydd cyfrannodd y rhain i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno."
5
Wrth i rywrai sn am y deml, ei bod wedi ei haddurno meini gwych a rhoddion cysegredig, meddai ef,
6
"Am y pethau hyn yr ydych yn syllu arnynt, fe ddaw dyddiau pryd ni adewir maen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr."
7
Gofynasant iddo, "Athro, pa bryd y bydd hyn? Beth fydd yr arwydd pan fydd hyn ar ddigwydd?"
8
Meddai yntau, "Gwyliwch na chewch eich twyllo. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, 'Myfi yw', ac, 'Y mae'r amser wedi dod yn agos'. Peidiwch mynd i'w canlyn.
9
A phan glywch am ryfeloedd a gwrthryfeloedd, peidiwch chymryd eich dychrynu. Rhaid i hyn ddigwydd yn gyntaf, ond nid yw'r diwedd i fod ar unwaith."
10
Y pryd hwnnw dywedodd wrthynt, "Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
11
Bydd daeargrynfu dirfawr, a newyn a phlu mewn mannau. Bydd argoelion arswydus ac arwyddion enfawr o'r nef.
12
Ond cyn hyn oll byddant yn gosod dwylo arnoch ac yn eich erlid. Fe'ch traddodir i'r synagogau ac i garchar, fe'ch dygir gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i;
13
hyn fydd eich cyfle i dystiolaethu.
14
Penderfynwch beidio phryderu ymlaen llaw ynglu375?n 'ch amddiffyniad;
15
fe roddaf fi i chwi huodledd, a doeth-ineb na all eich holl wrthwynebwyr ei wrthsefyll na'i wrth-ddweud.
16
Fe'ch bradychir gan eich rhieni a'ch ceraint a'ch perthnasau a'ch cyfeillion, a pharant ladd rhai ohonoch.
17
A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i.
18
Ond ni chollir yr un blewyn o wallt eich pen.
19
Trwy eich dyfalbarhad meddiannwch fywyd i chwi eich hunain.
20
"Ond pan welwch Jerwsalem wedi ei hamgylchynu gan fyddinoedd, yna byddwch yn gwybod fod awr ei diffeithio wedi dod yn agos.
21
Y pryd hwnnw, ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd. Pob un sydd yng nghanol y ddinas, aed allan ohoni; a phob un sydd yn y wlad, peidied mynd i mewn iddi.
22
Oherwydd dyddiau dial fydd y rhain, pan fydd pob peth sy'n ysgrifenedig yn cael ei gyflawni.
23
Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! Daw cyfyngder dirfawr ar y wlad, a digofaint ar y bobl hon.
24
Byddant yn cwympo dan fin y cleddyf, ac fe'u dygir yn garcharorion i'r holl genhedloedd. Caiff Jerwsalem ei mathru dan draed y Cenhedloedd nes cyflawni eu hamserau hwy.
25
"Bydd arwyddion yn yr haul a'r lloer a'r sr. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru ac ymchwydd y mr.
26
Bydd pobl yn llewygu gan ofn wrth ddisgwyl y pethau sy'n dod ar y byd; oherwydd ysgydwir nerthoedd y nefoedd.
27
A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda nerth a gogoniant mawr.
28
Pan ddechreua'r pethau hyn ddigwydd, ymunionwch a chodwch eich pennau, oherwydd y mae eich rhyddhad yn agosu."
29
Adroddodd ddameg wrthynt: "Edrychwch ar y ffigysbren a'r holl goed.
30
Pan fyddant yn dechrau deilio, fe wyddoch eich hunain o'u gweld fod yr haf bellach yn agos.
31
Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod fod teyrnas Dduw yn agos.
32
Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid 'r genhedlaeth hon heibio nes i'r cwbl ddigwydd.
33
Y nef a'r ddaear, nt heibio, ond fy ngeiriau i, nid nt heibio ddim.
34
"Cymerwch ofal, rhag i'ch meddyliau gael eu pylu gan ddiota a meddwi a gofalon bydol, ac i'r dydd hwnnw ddod arnoch yn ddisymwth
35
fel magl; oherwydd fe ddaw ar bawb sy'n trigo ar wyneb y ddaear gyfan.
36
Byddwch effro bob amser, gan ddeisyf am nerth i ddianc rhag yr holl bethau hyn sydd ar ddigwydd, ac i sefyll yng ngu373?ydd Mab y Dyn."
37
Yn ystod y dydd byddai'n dysgu yn y deml, ond byddai'n mynd allan ac yn treulio'r nos ar y mynydd a elwir Olewydd.
38
Yn y bore bach deuai'r holl bobl ato yn y deml i wrando arno.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24