bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Romans 10
Romans 10
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
1
Fy nghyfeillion, ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros fy mhobl, yw iddynt gael eu dwyn i iachawdwriaeth.
2
Gallaf dystio o'u plaid fod ganddynt sl dros Dduw. Ond sl heb ddeall ydyw.
3
Oherwydd, yn eu hanwybodaeth am gyfiawnder Duw, a'u hymgais i sefydlu eu cyfiawnder eu hunain, nid ydynt wedi ymostwng i gyfiawnder Duw.
4
Oherwydd Crist yw diwedd y Gyfraith, ac felly, i bob un sy'n credu y daw cyfiawnder Duw.
5
Ysgrifennodd Moses am y cyfiawnder trwy y Gyfraith: "Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt."
6
Ond fel hyn y dywed y cyfiawnder trwy ffydd: "Paid dweud yn dy galon, 'Pwy a esgyn i'r nef?'" hynny yw, i ddwyn Crist i lawr
7
"neu, 'Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?'" hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw.
8
Ond beth mae'n ei ddweud? "Y mae'r gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon." A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef:
9
"Os cyffesi Iesu yn Arglwydd 'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub."
10
Oherwydd credu 'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu 'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth.
11
Y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Pob un sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohono."
12
Nid oes dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb, sy'n rhoi o'i gyfoeth i bawb sy'n galw arno.
13
Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, "bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw."
14
Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu?
15
Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da."
16
Eto nid pawb a ufuddhaodd i'r newydd da. Oherwydd y mae Eseia'n dweud, "Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?"
17
Felly, o'r hyn a glywir y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist.
18
Ond y mae'n rhaid gofyn, "A oedd dichon iddynt fethu clywed?" Nac oedd, yn wir, oherwydd: "Aeth eu lleferydd allan i'r holl ddaear, a'u geiriau hyd eithafoedd byd."
19
Ond i ofyn peth arall, "A oedd dichon i Israel fethu deall?" Ceir yr ateb yn gyntaf gan Moses: "Fe'ch gwnaf chwi'n eiddigeddus wrth genedl nad yw'n genedl, a'ch gwneud yn ddig wrth genedl ddiddeall."
20
Ac yna, y mae Eseia'n beiddio dweud: "Cafwyd fi gan rai nad oeddent yn fy ngheisio; gwelwyd fi gan rai nad oeddent yn holi amdanaf."
21
Ond am Israel y mae'n dweud: "Ar hyd y dydd bm yn estyn fy nwylo at bobl anufudd a gwrthnysig."
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16