bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Romans 12
Romans 12
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol.
2
A pheidiwch chydymffurfio 'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.
3
Oherwydd, yn rhinwedd y gras y mae Duw wedi ei roi i mi, yr wyf yn dweud wrth bob un yn eich plith am beidio 'i gyfrif ei hun yn well nag y dylid ei gyfrif, ond bod yn gyfrifol yn ei gyfrif, ac yn gyson 'r mesur o ffydd y mae Duw wedi ei roi i bob un.
4
Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ond nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith,
5
felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd.
6
A chan fod gennym ddoniau sy'n amrywio yn l y gras a roddwyd i ni, dylem eu harfer yn gyson hynny. Os proffwydoliaeth yw dy ddawn, arfer hi yn gymesur 'th ffydd.
7
Os dawn gweini ydyw, arfer hi i weini. Os addysgu yw dy ddawn, arfer dy ddawn i addysgu, ac os cynghori, i gynghori.
8
Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny gyda llawenydd.
9
Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni.
10
Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.
11
Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd.
12
Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddo.
13
Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch.
14
Bendithiwch y rhai sy'n eich erlid, bendithiwch heb felltithio byth.
15
Llawenhewch gyda'r rhai sy'n llawenhau, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo.
16
Byddwch yn gytn ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawr-eddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch 'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth.
17
Peidiwch thalu drwg am ddrwg i neb. Bydded eich amcanion yn anrhydeddus yng ngolwg pawb.
18
Os yw'n bosibl, ac os yw'n dibynnu arnoch chwi, daliwch mewn heddwch phawb.
19
Peidiwch mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: "'Myfi piau dial, myfi a dalaf yn l,' medd yr Arglwydd."
20
Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau.
21
Paid goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni daioni.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16