bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Romans 16
Romans 16
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe, ein chwaer, sydd yn gwasanaethu'r eglwys yn Cenchreae.
2
Derbyniwch hi yn enw'r Arglwydd, mewn modd teilwng o'r saint, a byddwch yn gefn iddi ym mhob peth y gall fod arni angen eich cymorth, oherwydd y mae hithau wedi bod yn gefn i lawer, ac i mi yn bersonol.
3
Rhowch fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, fy nghydweithwyr yng Nghrist Iesu,
4
deuddyn a fentrodd eu heinioes i arbed fy mywyd i. Nid myfi yn unig sydd yn diolch iddynt, ond holl eglwysi'r Cenhedloedd.
5
Fy nghyfarchion hefyd i'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tu375?. Cyflwynwch fy nghyfarchion i'm cyfaill annwyl, Epainetus, y cyntaf yn Asia i ddod at Grist.
6
Cyfarchion i Fair, a fu'n ddiflin ei llafur ar eich rhan.
7
Cyfarchion i Andronicus a Jwnia, sydd o'r un genedl mi, ac a fu'n gydgarcharorion mi, yn amlwg ymhlith yr apostolion ac yn Gristionogion o'm blaen i.
8
Cyfarchion i Amplias, fy nghyfaill annwyl yn yr Arglwydd.
9
Cyfarchion i Wrbanus, ein cydweithiwr yng Nghrist, a'n cyfaill annwyl, Stachus.
10
Cyfarchwch Apeles, sy'n Gristion profedig. Cyfarchwch y rhai sydd o du375? Aristobwlus.
11
Cyfarchwch Herodion, sydd o'r un genedl mi. Cyfarchwch y Cristionogion sydd o du375? Narcisus.
12
Cyfarchwch Tryffena a Tryffosa, chwiorydd sy'n llafurio yng ngwasanaeth yr Arglwydd. Cyfarchwch Persis, chwaer annwyl sydd wedi llafurio cymaint yn ei wasanaeth.
13
Cyfarchwch Rwffus, sy'n Gristion dethol, a'i fam, sy'n fam i minnau.
14
Cyfarchwch Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermas, a'r cyfeillion sydd gyda hwy.
15
Cyfarchwch Philologus a Jwlia, Nereus a'i chwaer, Olympas a'r holl saint sydd gyda hwy.
16
Cyfarchwch eich gilydd chusan sanctaidd. Y mae holl eglwysi Crist yn eich cyfarch.
17
Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, gwyliwch y rhai sydd yn peri rhwyg ac yn codi rhwystrau, yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi. Gochelwch rhagddynt,
18
oherwydd nid gwas-anaethu Crist ein Harglwydd y mae rhai fel hyn, ond eu chwantau eu hunain; pobl ydynt sydd, trwy eiriau teg a gweniaith, yn hudo meddyliau'r diniwed ar gyfeiliorn.
19
Ond y mae eich ufudd-dod chwi yn hysbys i bawb. Dyna pam yr wyf yn llawenhau o'ch plegid; ac eto yr wyf am i chwi barhau i fod yn ddoeth mewn daioni ond yn ddiniwed mewn drygioni.
20
Ac felly, buan y bydd Duw yr heddwch yn malu Satan dan eich traed. Gras ein Harglwydd Iesu fyddo gyda chwi!
21
Y mae Timotheus, fy nghydweithiwr, yn eich cyfarch, a hefyd Lwcius a Jason a Sosipater, gwu375?r o'r un genedl mi.
22
(Ac yr wyf finnau, Tertius, sydd wedi ysgrifennu'r llythyr hwn, yn eich cyfarch yn yr Arglwydd.)
23
Y mae Gaius, a roes ei gartref yn llety i mi ac i'r holl eglwys, yn eich cyfarch. Y mae Erastus, trysorydd y ddinas, yn eich cyfarch, a hefyd y brawd Cwartus.
24
[{cf15i Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll! Amen.}]
25
Iddo ef sy'n abl i'ch gwneud yn gadarn, yn l yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, a'r genadwri am Iesu Grist, yn l y datguddiad o'r dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd maith,
26
ond sydd yn awr wedi ei amlygu trwy'r ysgrythurau proffwydol, ac wedi ei hysbysu ar orchymyn y Duw tragwyddol i'r holl Genhedloedd, i'w hennill i ffydd ac ufudd-dod;
27
i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16