bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Romans 14
Romans 14
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
1
Derbyniwch i'ch plith unrhyw un sy'n wan ei ffydd, ond nid er mwyn codi dadleuon.
2
Y mae gan ambell un ddigon o ffydd i fwyta pob peth, ond y mae un arall, gan fod ei ffydd mor wan, yn bwyta llysiau yn unig.
3
Rhaid i'r sawl sy'n bwyta pob peth beidio bychanu'r sawl sy'n ymwrthod, a rhaid i'r sawl sy'n ymwrthod beidio barnu'r sawl sy'n bwyta, oherwydd y mae Duw wedi ei dderbyn.
4
Pwy wyt ti, i fod yn barnu gwas rhywun arall? Gan y Meistr y mae'r hawl i benderfynu a yw rhywun yn sefyll neu'n syrthio. A sefyll a wna, oherwydd y mae'r Meistr yn abl i beri i rywun sefyll.
5
Y mae ambell un yn ystyried un dydd yn well na'r llall, ac un arall yn eu hystyried i gyd yn gyfartal. Rhaid i'r naill a'r llall fod yn gwbl argyhoeddedig yn eu meddyliau eu hunain.
6
Y mae'r sawl sy'n cadw'r dydd yn ei gadw er gogoniant yr Arglwydd; a'r sawl sy'n bwyta pob peth yn gwneud hynny er gogoniant yr Arglwydd, oherwydd y mae'n rhoi diolch i Dduw. Ac y mae'r un sy'n ymwrthod yn ymwrthod er gogoniant yr Arglwydd; y mae'n rhoi diolch i Dduw.
7
Oherwydd nid oes neb ohonom yn byw nac yn marw i ni'n hunain.
8
Os byw yr ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw. Prun bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo'r Arglwydd ydym.
9
Oherwydd pwrpas Crist wrth farw a dod yn fyw oedd bod yn Arglwydd ar y meirw a'r byw.
10
Pam yr wyt ti yn barnu rhywun arall? A thithau, pam yr wyt yn bychanu rhywun arall? Oherwydd bydd rhaid inni bob un sefyll gerbron brawdle Duw.
11
Fel y mae'n ysgrifenedig: "Cyn wired 'm bod i yn fyw, medd yr Arglwydd, i mi y bydd pob glin yn plygu, a phob tafod yn moliannu Duw."
12
Am hynny, bydd rhaid i bob un ohonom roi cyfrif amdanom ni'n hunain i Dduw.
13
Felly, peidiwn mwyach barnu ein gilydd. Yn hytrach, dyfarnwch nad oes neb i roi achlysur i rywun arall gwympo neu faglu.
14
Mi wn i sicrwydd yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono'i hun. Ond i rywun sy'n ystyried rhywbeth yn aflan y mae'r peth hwnnw yn aflan.
15
Ac felly, os yw'r math o fwyd yr wyt ti'n ei fwyta yn achos gofid i arall, nid wyt ti mwyach yn ymddwyn yn l gofynion cariad. Paid dwyn i ddistryw, 'th fwyd, unrhyw un y bu Crist farw drosto.
16
Peidiwch gadael i'r peth sy'n dda yn eich golwg gael gair drwg.
17
Nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Gln.
18
Y mae'r sawl sy'n gwasanaethu Crist yn y modd hwn yn dderbyniol gan Dduw ac yn gymeradwy gan bawb.
19
Felly gadewch inni geisio'r pethau sy'n arwain i heddwch, ac yn adeiladu perthynas gadarn 'n gilydd.
20
Peidiwch thynnu i lawr, o achos bwyd, yr hyn a wnaeth Duw. Y mae pob bwyd yn ln, ond y mae'n beth drwg i rywun fwyta a thrwy hynny beri cwymp i rywun arall.
21
Y peth iawn yw peidio bwyta cig nac yfed gwin, na gwneud dim a all beri i rywun arall gwympo.
22
Cadw dy ffydd, yn hyn o beth, rhyngot ti a Duw. Dedwydd yw'r sawl nad yw'n ei gollfarnu ei hun yn yr hyn y mae'n ei gymeradwyo.
23
Ond os bydd rhywun, er gwaethaf ei amheuon, yn bwyta pob peth, y mae wedi ei gollfarnu. Oherwydd nid o ffydd y bydd yn gweithredu. Ac y mae popeth nad yw'n tarddu o ffydd yn bechod.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16