bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Zechariah 1
Zechariah 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 2 →
1
Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido, a dweud,
2
"Digiodd yr ARGLWYDD yn fawr wrth eich hynafiaid.
3
Dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Dychwelwch ataf fi,' medd ARGLWYDD y Lluoedd, 'a dychwelaf finnau atoch chwi,' medd ARGLWYDD y Lluoedd.
4
'Peidiwch bod fel eich hynafiaid, y galwodd y proffwydi gynt arnynt, a dweud, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Trowch oddi wrth eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd drygionus, ond ni wrandawsant na rhoi sylw imi,' medd yr ARGLWYDD.
5
'Eich hynafiaid ple maent? A'r proffwydi a ydynt i fyw am byth?
6
Ond y geiriau a'r deddfau a orchmynnais i'm gweision y proffwydi oni ddaethant ar eich hynafiaid? A ddychwelasant hwy a dweud, Gwnaeth ARGLWYDD y Lluoedd fel y bwriadodd i ni am ein ffyrdd a'n gweithredoedd?'"
7
Ar y pedwerydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, sef mis Sebat, o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido.
8
Dywedodd Sechareia: Neithiwr cefais weledigaeth, dyn yn marchogaeth ar geffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, ac o'i l yr oedd meirch cochion, brithion a gwynion.
9
A gofynnais, "Beth yw'r rhai hyn, arglwydd?" A dywedodd yr angel oedd yn siarad mi, "Dangosaf i ti beth ydynt."
10
Yna dywedodd y gu373?r oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, "Dyma'r rhai a anfonodd yr ARGLWYDD i dramwyo dros y ddaear."
11
A dywedasant wrth angel yr ARGLWYDD, a oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, "Yr ydym wedi bod dros y ddaear, ac y mae'r holl ddaear yn dawel ac yn heddychlon."
12
Yna atebodd angel yr ARGLWYDD, "O ARGLWYDD y Lluoedd, am ba hyd y peidi thosturio wrth Jerwsalem ac wrth ddinasoedd Jwda, y dangosaist dy lid wrthynt y deng mlynedd a thrigain hyn?"
13
A llefarodd yr Arglwydd eiriau caredig a chysurlon wrth yr angel oedd yn siarad mi,
14
a dywedodd yr angel oedd yn siarad mi, "Cyhoedda, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Yr wyf yn eiddigeddus iawn dros Jerwsalem a thros Seion.
15
Yr wyf yn llawn llid mawr yn erbyn y cenhedloedd y mae'n esmwyth arnynt, am iddynt bentyrru drwg ar ddrwg pan nad oedd fy llid ond bychan.'
16
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Dychwelaf i Jerwsalem mewn trugaredd ac adeiledir fy nhu375? ynddi,' medd ARGLWYDD y Lluoedd, 'ac estynnir llinyn mesur dros Jerwsalem.'
17
Cyhoedda hefyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Bydd fy ninasoedd eto'n orlawn o ddaioni; rhydd yr ARGLWYDD eto gysur i Seion, a bydd eto'n dewis Jerwsalem.'"
18
Edrychais i fyny a gwelais, ac wele bedwar corn.
19
A gofynnais i'r angel oedd yn siarad mi, "Beth yw'r rhain?" A dywedodd wrthyf, "Dyma'r cyrn a wasgarodd Jwda, Israel a Jerwsalem."
20
Yna dangosodd yr ARGLWYDD imi bedwar gof.
21
A dywedais, "Beth y mae'r rhain am ei wneud?" Atebodd, "Bu'r cyrn hyn yn gwasgaru Jwda mor llwyr fel na allai neb godi ei ben; ond daeth y gofaint i'w dychryn a dinistrio cyrn y cenhedloedd a gododd gorn yn erbyn gwlad Jwda i'w gwasgaru."
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14