bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Zechariah 4
Zechariah 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 5 →
1
Dychwelodd yr angel oedd yn siarad mi, a'm deffro fel rhywun yn deffro o'i gwsg,
2
a dweud wrthyf, "Beth a weli?" Atebais innau, "Yr wyf yn gweld canhwyllbren, yn aur i gyd, a'i badell ar ei ben; y mae iddo saith o lampau a saith o bibellau i'r lampau arno;
3
y mae dwy olewydden gerllaw iddo, un ar dde'r badell a'r llall ar ei chwith."
4
Gofynnais i'r angel oedd yn siarad mi, "Beth yw'r rhain, f'arglwydd?"
5
Ac atebodd yr angel oedd yn siarad mi, "Oni wyddost beth yw'r rhain?" Dywedais, "Na wn i, f'arglwydd."
6
Yna dywedodd wrthyf, "Dyma air yr ARGLWYDD at Sorobabel: 'Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd,' medd ARGLWYDD y Lluoedd.
7
Beth wyt ti, O fynydd mawr? O flaen Sorobabel nid wyt ond gwastadedd. Bydd ef yn gosod y garreg uchaf, a phawb yn galw arni, 'Bendith! Bendith arni!'"
8
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
9
"Dwylo Sorobabel sy'n sylfaenu'r tu375? hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen"; a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch.
10
"Pwy bynnag a ddirmygodd ddydd y pethau bychain, caiff lawenhau wrth weld carreg y gwahanu yn llaw Sorobabel. Y saith hyn yw llygaid yr ARGLWYDD sy'n tramwyo dros yr holl ddaear."
11
Yna gofynnais iddo, "Beth yw'r ddwy olewydden hyn ar dde a chwith y canhwyllbren?"
12
A gofynnais iddo eilwaith, "Beth yw'r ddwy gangen olewydd sydd yn ymyl y ddwy bibell aur sy'n tywallt yr olew?"
13
Ac atebodd fi, "Oni wyddost beth yw'r rhain?" Dywedais innau, "Na wn i, f'arglwydd."
14
Yna dywedodd, "Y rhain yw'r ddau eneiniog sy'n gwasanaethu ARGLWYDD yr holl ddaear."
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14