bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Zechariah 8
Zechariah 8
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 9 →
1
A daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Yr wyf yn eiddigeddus dros Seion, yn eiddigeddus iawn; llid mawr yr wyf yn eiddigeddus drosti.'
3
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Dychwelaf i Seion a thrigo yng nghanol Jerwsalem, a gelwir Jerwsalem, Y Ddinas Ffyddlon, a mynydd ARGLWYDD y Lluoedd, Y Mynydd Sanctaidd.'
4
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Bydd hen wu375?r a gwragedd unwaith eto yn eistedd yn heolydd Jerwsalem, pob un ffon yn ei law oherwydd ei henaint;
5
bydd strydoedd y ddinas yn llawn o fechgyn a genethod yn chwarae ar hyd y stryd.'
6
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Os yw'n rhyfedd yng ngolwg gweddill y bobl hyn yn y dyddiau hynny, a yw hefyd yn rhyfedd yn fy ngolwg i?' medd ARGLWYDD y Lluoedd.
7
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Wele fi'n gwaredu fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin, a'u dwyn i drigo yng nghanol Jerwsalem;
8
a byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy, mewn gwirionedd a chyfiawnder.'
9
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Chwi yn y dyddiau hyn sy'n clywed y geiriau hyn o enau'r proffwydi oedd yno pan osodwyd sylfeini tu375? ARGLWYDD y Lluoedd, cryfhaer eich dwylo i adeiladu'r deml.
10
Oherwydd cyn y dyddiau hynny nid oedd llogi ar ddyn nac ar anifail, ac ni chaed llonydd gan y gelyn i fynd a dod, ac yr oeddwn yn gyrru pob un ohonynt yn erbyn ei gilydd.
11
Ond yn awr nid wyf yr un tuag at weddill y bobl hyn ag yn y dyddiau gynt,' medd ARGLWYDD y Lluoedd.
12
'Oherwydd bydd hau mewn heddwch; rhydd y winwydden ei ffrwyth, y tir ei gynnyrch, a'r nefoedd ei gwlith; rhof yr holl bethau hyn yn feddiant i weddill y bobl hyn.
13
Ac fel y buoch chwi, du375? Jwda a thu375? Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd, felly y'ch gwaredaf, a byddwch yn fendith. Peidiwch ag ofni, ond cryfhaer eich dwylo.'
14
"Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Fel y bwriedais wneud drwg i chwi pan gythruddodd eich hynafiaid fi,' medd ARGLWYDD y Lluoedd, 'ac nid edifarheais,
15
felly y bwriadaf eto yn y dyddiau hyn wneud da i Jerwsalem ac i du375? Jwda; peidiwch ag ofni.
16
Dyma'r peth a wnewch: dywedwch y gwir wrth eich gilydd; gwnewch farn uniawn a chywir yn eich pyrth;
17
peidiwch dyfeisio 'ch meddyliau ddrwg i'ch gilydd, na charu llwon celwyddog, oherwydd yr wyf yn casu yr holl bethau hyn,' medd yr ARGLWYDD."
18
Daeth gair ARGLWYDD y Lluoedd ataf a dweud,
19
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Bydd ymprydiau'r pedwerydd mis, a'r pumed mis, a'r seithfed mis, a'r degfed mis yn troi'n dymhorau llawenydd a dedwyddwch, ac yn wyliau llawen i du375? Jwda; felly carwch wirionedd a heddwch.'
20
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Daw eto bobloedd a thrigolion dinasoedd mawrion;
21
bydd trigolion un dref yn mynd at drigolion tref arall ac yn dweud, Awn i geisio ffafr yr ARGLWYDD ac i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd; ac fe af finnau hefyd.
22
Daw pobloedd cryfion a chenhedloedd nerthol i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd yn Jerwsalem ac i geisio ffafr yr ARGLWYDD.'
23
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Yn y dyddiau hynny bydd deg o blith cenhedloedd o bob iaith yn cydio yn llewys rhyw Iddew ac yn dweud, Awn gyda chwi, oherwydd clywsom fod Duw gyda chwi.'"
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14