bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Zechariah 12
Zechariah 12
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 13 →
1
Oracl. Gair yr ARGLWYDD am Israel. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD a daenodd y nefoedd a sylfaenu'r ddaear a llunio ysbryd mewn pobl:
2
"Wele fi'n gwneud Jerwsalem yn gwpan feddwol i'r holl bobloedd oddi amgylch; a bydd yn Jwda warchae yn erbyn Jerwsalem.
3
Yn y dydd hwnnw, pan fydd holl genhedloedd y ddaear wedi ymgasglu yn ei herbyn, gwnaf Jerwsalem yn garreg rhy drom i'r holl bobloedd, a bydd pwy bynnag a'i cwyd yn brifo'n arw.
4
Y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "trawaf bob ceffyl syndod, a'i farchog dryswch; cadwaf fy ngolwg ar du375? Jwda, ond trawaf holl geffylau'r bobloedd yn ddall.
5
Yna dywed tylwythau Jwda wrthynt eu hunain, 'Cafodd trigolion Jerwsalem nerth trwy ARGLWYDD y Lluoedd, eu Duw.'
6
"Y dydd hwnnw gwnaf dylwythau Jwda fel basged dn yng nghanol coed, fel ffagl dn mewn ysgub; byddant yn ysu'r holl bobloedd o'u cwmpas, ar y dde a'r chwith, ac eto bydd Jerwsalem ei hun yn aros yn ddiogel yn ei lle.
7
"Rhydd yr ARGLWYDD waredigaeth yn gyntaf i deuluoedd Jwda, rhag i ogoniant tu375? Dafydd a gogoniant trigolion Jerwsalem ddyrchafu'n uwch na Jwda.
8
Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn amddiffyn trigolion Jerwsalem, a bydd y gwannaf ohonynt fel Dafydd, yn y dydd hwnnw, a llinach Dafydd fel Duw, fel angel yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau.
9
"Yn y dydd hwnnw af ati i ddinistrio'r holl genhedloedd sy'n dod yn erbyn Jerwsalem.
10
A thywalltaf ar linach Dafydd ac ar drigolion Jerwsalem ysbryd gras a gweddau, ac edrychant ar yr un a drywanwyd ganddynt, a galaru amdano fel am uniganedig, ac wylo amdano fel am gyntafanedig.
11
Y dydd hwnnw bydd y galar yn Jerwsalem gymaint 'r galar am Hadad-rimmon yn nyffryn Megido.
12
Galara'r wlad, pob teulu wrtho'i hun teulu llinach Dafydd wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain; teulu llinach Nathan wrtho'i hun a'i wragedd wrthynt eu hunain;
13
teulu llinach Lefi wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain; teulu Simei wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain;
14
a'r gweddill o'r holl deuluoedd wrthynt eu hunain, a'u gwragedd wrthynt eu hunain.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14