bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Galatians 1
Galatians 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
1
Paul, apostol (nid gan ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist a Duw Dad, yr Hwn a’i cyfododd Ef o feirw),
2
a’r holl frodyr y sydd gyda mi, at eglwysi Galatia.
3
Gras i chwi a heddwch oddiwrth Dduw Dad a’n Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn a roddes ei hun am ein pechodau,
4
fel y’n gwaredai allan o’r byd drwg presennol, yn ol ewyllys ein Duw a Thad;
5
i’r Hwn y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
6
Rhyfeddu yr wyf eich bod mor fuan yn symmud oddiwrth yr hwn a’ch galwodd trwy ras Crist, i efengyl arall;
7
yr hon nid yw arall, ond rhai dynion sydd a’ch cythryflant ac yn ewyllysio dattroi efengyl Grist.
8
Eithr pe bai hyd yn oed nyni, neu angel o’r nef, yn efengylu i chwi amgen na’r hon a efengylasom i chwi, anathema fydded.
9
Fel y dywedasom o’r blaen, yr awr hon hefyd trachefn yr wyf yn dywedyd, Os bydd i neb efengylu i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch, anathema fydded.
10
Canys yn awr ai dynion yr wyf yn eu perswadio, ai ynte Dduw? Ai ceisio yr wyf ryngu bodd dynion? Os etto rhyngu bodd dynion y byddwn, gwas i Grist ni fyddwn.
11
Canys hyspysu yr wyf i chwi frodyr, am yr Efengyl a efengylwyd genyf, nad ydyw yn ol dyn;
12
canys myfi, nid gan ddyn y derbyniais hi, nac y’m dysgwyd, eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist;
13
canys clywsoch am fy ymarweddiad gynt yng nghrefydd yr Iwddewon, mai tros fesur yr erlidiwn Eglwys Dduw, ac y’i anrheithiwn;
14
a myned rhagof yng nghrefydd yr Iwddewon tu hwnt i lawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl, gan fod yn fwy dros ben yn selog tros draddodiadau fy nhadau.
15
Ond pan foddlonwyd Duw, yr Hwn a’m neillduodd o groth fy mam, ac a’m galwodd trwy Ei ras,
16
i ddatguddio Ei Fab ynof fel yr efengylwn Ef ym mhlith y cenhedloedd, yn uniawn nid ymgynghorais â chnawd a gwaed;
17
ac nid aethum i fynu i Ierwshalem at y rhai oeddynt o’m blaen i yn apostolion, eithr aethym ymaith i Arabia; a thrachefn y dychwelais i Ddamascus.
18
Gwedi hyny, ar ol tair blynedd yr aethum i fynu i Ierwshalem i ymweled â Petr, ac arhosais gydag ef bymtheng niwrnod:
19
ond arall o’r apostolion ni welais, oddieithr Iago brawd yr Arglwydd.
20
A’r pethau yr wyf yn eu hysgrifenu attoch, wele, ger bron Duw, nid wyf yn celwyddu.
21
Gwedi hyny, daethum i barthau Suria a Cilicia,
22
ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb gan eglwysi Iwdea a oeddynt yng Nghrist;
23
ond yn unig clywed yr oeddynt, Yr hwn a’n herlidiai gynt, sydd yr awr hon yn efengylu y ffydd yr oedd efe gynt yn ei hanrheithio;
24
ac ynof y gogoneddent Dduw.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6