bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Galatians 6
Galatians 6
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
1
Brodyr, er i ddyn ei oddiweddu gan ryw gamwedd, chwychwi, y rhai ysprydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn yspryd addfwyn, gan dy ystyried dy hun, rhag y’th demtier dithau.
2
Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.
3
Canys os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac efe heb fod yn ddim, twyllo ei hun y mae efe.
4
Ond profed pob un ei waith ei hun, ac yna tuag at ef ei hun yn unig y bydd yr ymffrost iddo, ac nid tuag at un arall,
5
canys ei faich ei hun pob un a ddwg.
6
Ond cyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y Gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu ef, ym mhob peth da.
7
Nac arweinier chwi ar gyfeiliorn; Duw ni watworir; canys pa beth bynnag a hauo dyn, hyny a fed efe hefyd;
8
oblegid yr hwn sy’n hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd y med lygredigaeth; ond yr hwn sy’n hau i’r Yspryd, o’r Yspryd y med fywyd tragywyddol.
9
Ac yn gwneuthur yr hyn sydd dda na ddigalonnwn, canys yn ei iawn bryd y medwn, os heb ddiffygio.
10
Gan hyny ynte, fel y mae amser cyfaddas genym, gweithredwn yr hyn sydd dda tuag at bawb, ac yn enwedig tua’r rhai o deulu’r ffydd.
11
Gwelwch â pha lythyrennau eu maint yr ysgrifennais attoch chwi â’m llaw fy hun.
12
Cynnifer ag sy’n ewyllysio ymdeccau yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymhell i amdorri arnoch, yn unig fel nad oblegid croes Crist yr erlidier hwynt;
13
canys nid yw hyd yn oed y rhai yr amdorrir arnynt eu hunain yn cadw’r Gyfraith, eithr ewyllysiant i chwi amdorri arnoch, fel yn eich cnawd chwi yr ymffrostiont.
14
Ond i myfi, na fydded i mi ymffrostio oddieithr ynghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy’r Hwn y croes-hoeliwyd y byd i mi, ac myfi i’r byd;
15
canys amdorriad nid yw ddim, na diamdorriad; eithr creadur newydd.
16
A chynnifer ag a rodiant wrth y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.
17
O hyn allan na fydded i neb beri blinder i mi; canys myfi wyf yn dwyn nodau’r Iesu yn fy nghorph.
18
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch yspryd chwi, frodyr. Amen.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
All chapters:
1
2
3
4
5
6