bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Galatians 4
Galatians 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Ond dywedyd yr wyf, am gymmaint o amser ag y mae’r etifedd tan oed, nid oes gwahaniaeth rhyngddo a gwas, ac yntau yn Arglwydd ar y cwbl;
2
eithr tan warcheidwaid a disdeiniaid y mae hyd yr amser a osodwyd gan y tad.
3
Felly ninnau hefyd, pan oeddym tan oed, tan wyddorion y byd yr oeddym wedi ein caethiwo;
4
ond pan ddaeth cyflawnder yr amser danfonodd Duw Ei Fab allan, wedi Ei eni o wraig,
5
wedi Ei eni tan y Gyfraith, fel y rhai tan y Gyfraith y prynai, fel y byddai’r mabwysiad i’w gael genym.
6
Ac o herwydd eich bod yn feibion, danfonodd Duw Yspryd Ei Fab i’n calonnau, yn llefain, Abba Dad.
7
Felly nid wyt mwyach yn gaethwas, eithr yn fab; ac os mab, yn etifedd hefyd trwy Dduw.
8
Eithr yr amser hwnw, heb adnabod o honoch Dduw, caethion oeddych i’r rhai wrth naturiaeth nad ydynt dduwiau:
9
ond yn awr gan adnabod Duw, ac yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd y trowch yn ol at yr egwyddorion gwan a thlodion, i’r rhai yr ewyllysiwch fod etto o newydd mewn caethiwed?
10
Diwrnodiau a gedwch, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.
11
Ofn sydd arnaf am danoch, rhag mewn modd yn y byd yn ofer y llafuriais arnoch.
12
Byddwch fel yr wyf fi, canys yr wyf fi fel chwychwi, frodyr, attolygaf arnoch. Mewn dim ni wnaethoch gam i mi;
13
ond gwyddoch mai o achos gwaelder cnawdol yr efengylais i chwi y waith gyntaf;
14
ac eich profedigaeth yn fy nghnawd ni ddirmygasoch ac ni wrthodasoch; eithr fel angel Duw y’m derbyniasoch, fel Crist Iesu.
15
Pa le, gan hyny, y mae eich ymfendigiad? canys tystiaf i chwi, pe buasai bosibl, eich llygaid a dynnasech allan ac a’u rhoisech i mi.
16
Felly, ai yn elyn i chwi yr aethum wrth ddweud y gwir wrthych?
17
Selog ydynt tuag attoch, nid yn dda, eithr eich cau chwi allan a ewyllysiant, fel y ceisioch hwynt-hwy.
18
Ond da yw bod yn selog, mewn peth da, bob amser, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi.
19
Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn hyd oni ffurfier Crist ynoch,
20
ewyllysiwn fod yn bresennol gyda chwi yn awr, a newidio fy llais, canys dyrysir fi ynoch.
21
Dywedwch wrthyf, y rhai sy’n ewyllysio bod dan y Gyfraith, oni chlywch y Gyfraith?
22
Canys ysgrifenwyd, Abraham oedd a dau fab ganddo, un o’r wasanaeth-ferch, ac un o’r wraig rydd.
23
Eithr yr hwn o’r wasanaeth-ferch, yn ol y cnawd y ganed; a’r hwn o’r wraig rydd, trwy addewid.
24
A’r pethau hyn sydd ag alegori ynddynt, canys y gwragedd hyn ydynt ddau gyfammod, sef, un o fynydd Sinai, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Hagar.
25
A’r Hagar hon, mynydd Sinai yw, yn Arabia, a chyfatteb y mae i’r Ierwshalem sydd yn awr, canys mewn caethiwed y mae hi ynghyda’i phlant.
26
Ond yr Ierwshalem sydd uchod, rhydd yw, yr hon yw ein mam; canys ysgrifenwyd,
27
“Llawenycha, anffrwythlawn, yr hon nid wyt yn eppilio; Tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor; Canys mwy yw plant yr unig na’r hon sydd a chanddi ŵr.”
28
Ac nyni, frodyr, fel Itsaac, plant addewid ydym; eithr fel yr amser hwnw,
29
yr hwn a anwyd yn ol y cnawd a erlidiai yr hwn a anwyd yn ol yr Yspryd, felly hefyd yn awr.
30
Eithr pa beth a ddywaid yr Ysgrythyr? “Bwrw allan y wasanaeth-ferch a’i mab, canys mewn modd yn y byd nid etifedda mab y wasanaeth-ferch ynghyda mab y wraig rydd.”
31
O herwydd paham, frodyr, nid ydym blant y wasanaeth-ferch, eithr plant y wraig rydd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6