bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Galatians 5
Galatians 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
1
A rhyddid Crist a’n rhyddhaodd ni; sefwch, gan hyny; a than iau caethiwed na’ch dalier drachefn.
2
Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os amdorrir chwi, Crist ni’ch llesa chwi ddim.
3
A thystiolaethu yr wyf drachefn i bob dyn yr amdorrir arno mai dyledwr yw i wneuthur yr holl Gyfraith.
4
Difudd y’ch gwnaed oddiwrth Grist y rhai yn y Gyfraith a ymgyfiawnhewch; oddiwrth ras y syrthiasoch.
5
Canys nyni, trwy’r Yspryd, o ffydd y disgwyliwn obaith cyfiawnder;
6
canys yng Nghrist Iesu amdorriad ni all ddim, na diamdorriad, eithr ffydd yn gweithio trwy gariad.
7
Rhedeg yn dda yr oeddych. Pwy a’ch rhwystrodd fel i’r gwirionedd nad ufuddhaech?
8
Y perswadio, nid o’r hwn sydd yn eich galw y mae.
9
Gan ychydig lefain yr holl does a lefeinir.
10
Myfi a ymddiriedaf tuag attoch yn yr Arglwydd, nad dim amgen a syniwch; ond yr hwn sydd yn eich cythryflu a ddwg ei farnedigaeth, pwy bynnag fyddo.
11
Ond myfi, frodyr, os amdorriad yr wyf etto yn ei bregethu, paham y’m herlidir etto? Yna y diddymwyd tramgwydd y Groes.
12
O na thorrid ymaith y rhai sydd yn eich ansefydlu!
13
Canys chwychwi, er rhyddid y’ch galwyd, frodyr; yn unig nac arferwch y rhyddid er achlysur i’r cnawd, eithr trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd:
14
canys yr holl Gyfraith, mewn un gair y cyflawnwyd, sef yn hwn, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun;”
15
ond os brathu a thraflyngeu eich gilydd yr ydych, gwyliwch nad gan eich gilydd y’ch difether.
16
Ond dywedyd yr wyf, Yn yr Yspryd rhodiwch, a chwant y cnawd na chyflawnwch mo’no;
17
canys y cnawd a chwennych yn erbyn yr Yspryd, a’r Yspryd yn erbyn y cnawd, canys y rhai hyn ydynt wrthwynebol i’w gilydd, fel y pethau a ewyllysioch na wneloch.
18
Ond os gan yr Yspryd y’ch arweinir, nid ydych dan y Gyfraith.
19
Ac amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai ydynt godineb,
20
aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd, casineb, cynhen, eiddigedd, llid, ymrysonau, ymraniadau,
21
heresiau, cynfigennau, meddwdod, cyfeddach, a’r pethau cyffelyb i’r rhai hyn; am y rhai y rhybuddiaf chwi, fel y rhag-ddywedais, Y rhai sy’n gwneuthur y cyfryw bethau, teyrnas Dduw nid etifeddant.
22
Ond ffrwyth yr Yspryd yw, Cariad, llawenydd, tangnefedd, hir-ymaros, cymmwynasgarwch,
23
daioni, ffydd, addfwynder, dirwest; yn erbyn y cyfryw bethau nid oes cyfraith.
24
A’r rhai sydd yn eiddo Crist Iesu, y cnawd a groes-hoeliasant ynghyda’i wyniau a’i chwantau.
25
Os byw yr ydym yn yr Yspryd, yn yr Yspryd rhodiwn hefyd.
26
Na fyddwn wag-ogoneddgar, yn herio ein gilydd, yn cynfigennu wrth ein gilydd.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6