bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Galatians 3
Galatians 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
O Galatiaid difeddwl, pwy a’ch swynodd chwi, i’r rhai, o flaen eich llygaid, y bu i Iesu Grist Ei bortreiadu yn groes-hoeliedig?
2
Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu genych, Ai trwy weithredoedd y Gyfraith y derbyniasoch yr Yspryd, neu wrth wrandawiad ffydd?
3
Ai mor ddi-feddwl ydych? Wedi dechreu yn yr Yspryd, ai yn awr yn y cnawd y’ch perffeithir?
4
Ai cymmaint o bethau a ddioddefasoch yn ofer? os hefyd yn ofer y bu.
5
Yr Hwn sy’n arlwyo i chwi yr Yspryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y Gyfraith, neu o wrandawiad ffydd y mae?
6
“Fel y bu i Abraham gredu Duw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder:”
7
gwybyddwch, gan hyny, mai y rhai sydd o ffydd, hwynt-hwy yw meibion Abraham.
8
A chan ragweled o’r Ysgrythyr mai trwy ffydd y cyfiawnhaai Duw y cenhedloedd, rhag-efengylodd i Abraham, “Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.”
9
Felly y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlawn;
10
canys cynnifer ag y sy o weithredoedd y Gyfraith, tan felldith y maent, canys ysgrifenwyd, “Melldigedig yw pob un nad yw yn parhau yn yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, i’w gwneuthur hwynt.”
11
Ac mai trwy’r Gyfraith nad oes neb yn cael ei gyfiawnhau gyda Duw sydd eglur, canys, “Y cyfiawn trwy ffydd a fydd byw;”
12
a’r Gyfraith nid yw o ffydd, eithr, “Yr hwn a’u gwnaeth fydd byw ynddynt.”
13
Crist a’n prynodd ni o felldith y Gyfraith, wedi myned trosom yn felldith, canys ysgrifenwyd, “Melldigedig yw pob un sydd ynghrog ar bren;”
14
fel at y cenhedloedd y delai bendith Abraham yng Nghrist Iesu, fel y byddai addewid yr Yspryd i’w gael genym trwy ffydd.
15
Brodyr, yn ol dyn yr wyf yn dywedyd: Cyfammod, er yn eiddo dyn, wedi ei gadarnhau, ni ddirymma neb, neu a rydd atto.
16
Ac i Abraham yr adroddwyd yr addewidion, ac i’w had. Ni ddywaid, Ac i’r hadau fel am lawer, eithr fel am un, “Ac i’th had,” yr hwn yw Crist.
17
A hyn a ddywedaf, Cyfammod a rag-gadarnhawyd gan Dduw, y Gyfraith yr hon a wnaed bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi’n, nid yw yn ei ddirymmu, i wneuthur yr addewid yn ddieffaith.
18
Canys os o’r Gyfraith y mae’r etifeddiaeth, nid yw mwyach o addewid; ond i Abraham trwy addewid y rhoddodd Duw hi.
19
Pa beth, gan hyny, yw ’r Gyfraith? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg nes dyfod o’r had i’r hwn yr addawyd, wedi ei hordeinio trwy angylion, trwy Enw cyfryngwr.
20
A’r cyfryngwr, nid i un y mae; ond Duw, un yw.
21
A ydyw’ r Gyfraith, gan hyny, yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw; canys pe rhoddasid cyfraith yn medru bywhau, yn wir o’r Gyfraith y buasai cyfiawnder.
22
Eithr, cyd-gauodd yr Ysgrythyr bob peth dan bechod, fel y byddai i’r addewid, trwy ffydd yn Iesu Grist, ei roddi i’r rhai sy’n credu.
23
Ond cyn na ddaeth ffydd, tan y gyfraith y’n gwarchadwyd, wedi ein cau i fynu i’r ffydd ar fedr ei datguddio;
24
fel mai’r Gyfraith fu ein hyfforddwr at Grist, fel trwy ffydd y’n cyfiawnhaid.
25
Ond wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan hyfforddwr:
26
canys yr oll o honoch, meibion Duw ydych trwy ffydd yng Nghrist Iesu;
27
canys cynnifer o honoch ag i Grist y’ch bedyddiwyd, Crist a roisoch am danoch;
28
nid oes yno Iwddew na Groegwr; nid oes yno gaeth na rhydd: nid oes yno wrryw na bannyw; canys yr oll o honoch, un ydych yng Nghrist Iesu; ac os a chwi yn eiddo Crist,
29
yna had Abraham ydych, ac yn ol addewid yn etifeddion.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6