bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Thessalonians 1
1 Thessalonians 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Pawl a Silfan a Thimotheus at Eglwys y Thesaloniaid yn Nuw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist. Gras i chwi a thangnefedd.
2
Diolchwn i Dduw yn wastadol amdanoch oll wrth eich cofio yn ein gweddïau;
3
canys cofiwn yn ddibaid gerbron Duw a’n Tad eich gwaith ffydd, eich llafur cariad, a’ch dioddefgarwch yn y gobaith sydd yn ein Harglwydd Iesu Grist;
4
a gwyddom, frodyr annwyl gan Dduw, eich ethol chwi: oblegid daeth ein hefengyl atoch,
5
nid mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân a chydag argyhoeddiad llawn — a gwyddoch y fath ddynion a fuom ni i chwi er eich mwyn chwi.
6
A chwithau a aethoch i’n hefelychu ni a’r Arglwydd, trwy dderbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân;
7
hyd onid aethoch yn esiampl i bawb sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia;
8
canys oddi wrthych chwi y datseiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia ac Achaia, eithr ym mhobman yr aeth eich ffydd tuag at Dduw ar led fel nad oes raid i ni ddywedyd dim;
9
canys edrydd pobl ohonynt eu hunain amdanom ni, y fath ddyfodiad a gawsom i’ch plith, a’r modd y troesoch at Dduw oddi wrth yr eilunod i wasanaethu Duw byw a gwirioneddol,
10
ac i ddisgwyl Ei Fab o’r nefoedd, yr Hwn a gyfododd Ef o blith y meirw, Iesu sydd yn ein gwaredu oddi wrth y llid sydd yn dyfod.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5