bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Thessalonians 5
1 Thessalonians 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Ac am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid oes arnoch angen am ysgrifennu atoch.
2
Gwyddoch yn sicr eich hunain mai megis lleidr yn y nos, felly y daw Dydd yr Arglwydd.
3
Pan ddywed pobl “Y mae’n dawel a diogel,” y pryd hwnnw y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf, fel gwewyr gwraig ar esgor, ac ni ddihangant ddim.
4
Ond, frodyr, nid ydych chwi yn y tywyllwch fel y goddiweddo’r dydd chwi fel lleidr.
5
Meibion y goleuni ydych chwi oll, a meibion y dydd. Nid eiddo’r nos na’r tywyllwch ydym ni.
6
Gan hynny, na chysgwn, fel y rhelyw, eithr byddwn effro a sobr,
7
canys y rhai a gysgant y nos y cysgant, a’r rhai a feddwant, y nos y meddwant.
8
Eithr byddwn ni sy’n eiddo’r dydd yn sobr, wedi gwisgo amdanom lurig ffydd a chariad, a gobaith iachawdwriaeth yn helm,
9
oblegid ni neilltuodd Duw ni i ddigofaint ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist
10
a fu farw drosom, fel, pa un bynnag ai yn effro ai huno y byddom, y caffom fyw gydag ef.
11
Gan hynny, anogwch eich gilydd, ac adeiledwch y naill y llall, megis yn wir y gwnewch.
12
Dymunwn arnoch, frodyr, gydnabod y rhai sy’n llafurio yn eich mysg ac yn eich blaenori yn yr Arglwydd ac yn eich cynghori.
13
Mawrygwch hwynt hefyd mewn cariad oherwydd eu gwaith. Byddwch heddychol yn eich plith eich hunain.
14
Dymunwn arnoch, frodyr, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y rhai digalon, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.
15
Gwyliwch rhag talu o neb ddrwg am ddrwg, eithr ceisiwch yn wastadol les eich gilydd a phawb.
16
Llawenhewch yn wastadol.
17
Gweddïwch yn ddi-baid.
18
Byddwch ddiolchgar am bopeth. Hynny yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi.
19
Na ddiffoddwch yr Ysbryd.
20
Na ddirmygwch broffwydoliaethau.
21
Profwch bopeth, glynwch wrth y da.
22
Ymgedwch rhag pob math o ddrwg.
23
A Duw y tangnefedd Ei Hun a’ch sancteiddio yn gwbl oll, a chadwer chwi ysbryd, enaid, a chorff, yn ddianaf a difai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
24
Ffyddlon yw yr Hwn a’ch geilw ac Ef a’i gwna.
25
Frodyr, gweddïwch drosom ninnau.
26
Cyferchwch y brodyr oll â chusan sanctaidd.
27
Tynghedaf chwi yn yr Arglwydd i ddarllen y llythyr i’r holl frodyr.
28
Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fo gyda chwi.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5