bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Thessalonians 4
1 Thessalonians 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
Yn ddiwethaf, frodyr, deisyfwn ac ymbiliwn yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym ni y modd y dylech rodio a rhyngu bodd Duw, fel, yn wir, yr ydych yn rhodio, ar i chwi ragori fwyfwy.
2
Canys gwyddoch pa gyfarwyddiadau a roesom i chwi trwy yr Arglwydd Iesu;
3
oblegid hyn yw ewyllys Duw — eich puredigaeth chwi, ymgadw ohonoch rhag godineb,
4
a dysgu bob un ohonoch gymryd cymar iddo ei hun mewn diweirdeb a pharch,
5
nid yn nwyd anlladrwydd fel y cenhedloedd nad adwaenant Dduw;
6
fel na byddo i neb wneuthur cam â’i frawd, na manteisio arno yn y peth hwn. Canys dialydd yw yr Arglwydd am y pethau hyn oll, megis y dywedasom o’r blaen wrthych a’ch dwys rybuddio.
7
Ni alwodd Duw ni i aflendid ond mewn purdeb.
8
Gan hynny, y neb a ddiystyra nid dyn a ddiystyra namyn y Duw sydd yn rhoddi i chwi Ei Ysbryd sanctaidd.
9
Ond am gariad brawdol nid oes eisiau ysgrifennu atoch, oblegid dysgir chwi eich hunain gan Dduw i garu eich gilydd.
10
Ac, yn wir, hyn a wnewch tuag at bawb o’r brodyr trwy holl Facedonia. Ond deisyfwn arnoch, frodyr, ragori fwyfwy
11
a bod yn eiddgar i fyw’n dawel, a dilyn bob un ei orchwyl ei hun, a gweithio â’ch dwylo, megis y’ch cyfarwyddasom,
12
fel y rhodioch yn weddaidd yng ngolwg y byd, ac na ddeloch ar ofyn neb.
13
Ni ddymunwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sydd yn huno fel na byddo i chwi ofidio fel y rhelyw nad oes iddynt obaith.
14
Canys os credwn i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd trwy Iesu fe ddwg Duw, gydag Ef, y sawl a hunodd.
15
A dywedwn hyn wrthych, yn ôl gair yr Arglwydd, na fydd i ni, y rhai byw a erys hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu y sawl a hunodd.
16
Canys yr Arglwydd Ei Hun a ddisgyn o’r nef â gwysfloedd, â llef archangel, ac ag utgorn Duw, a’r meirw yng Nghrist a gyfyd gyntaf,
17
yna ninnau, y rhai byw, y rhai sy’n aros, a gipir gyda hwynt mewn cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr, ac felly byddwn gyda’r Arglwydd yn dragywydd.
18
Gan hynny, diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5