bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Thessalonians 3
1 Thessalonians 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
A ni, gan hynny, yn methu ag ymatal yn hwy, penderfynasom aros ar ôl yn Athen wrthym ein hunain,
2
ac anfonasom Dimotheus ein brawd, gweinidog Duw yn efengyl Crist, i’ch cadarnhau a’ch calonogi yn eich ffydd,
3
fel na lithier neb ohonoch yn y blinderau hyn. Gwyddoch chwi eich hunain mai hynny yw ein rhan;
4
canys rhagfynegem i chwi pan oeddem gyda chwi y byddai i ni ddioddef blinder, ac felly y bu, fel y gwyddoch.
5
A minnau, oblegid hyn, heb fedru ymatal yn hwy, a anfonais i wybod am eich ffydd, rhag darfod i’r Temtiwr eich temtio ac i’n llafur fynd yn ofer.
6
Ond a Thimotheus newydd ddyfod atom oddi wrthych chwi, yn dwyn newyddion da am eich ffydd a’ch cariad, a’ch bod yn coffau yn garedig amdanom yn wastadol, ac yn hiraethu am ein gweled, fel yr hiraethwn ninnau am eich gweled chwi,
7
yna y’n cysurwyd, frodyr, o’ch plegid, yng nghanol ein holl gyni a’n blinder, trwy eich ffydd chwi.
8
Canys byw yr ydym yn awr os ych chwi’n sefyll yn yr Arglwydd.
9
A pha fodd y medrwn ddiolch i Dduw amdanoch, am yr holl lawenydd a gawn o’ch plegid gerbron ein Duw,
10
canys yn angerddol yr erfyniwn nos a dydd am weled eich wyneb, a chwblhau yr hyn sydd yn ôl yn eich ffydd.
11
Ein Duw a’n Tad Ei Hun a’n Harglwydd Iesu a gyfeirio ein ffordd atoch;
12
a’r Arglwydd a baro i chwi gynyddu a rhagori mewn cariad tuag at eich gilydd a thuag at bawb fel y gwnawn ninnau tuag atoch chwi,
13
fel y cadarnhaer eich calonnau i’w gwneuthur yn ddifeius mewn sancteiddrwydd gerbron ein Duw a’n Tad yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda’i saint oll.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5