bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Thessalonians 2
1 Thessalonians 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
1
Canys gwyddoch eich hunain, frodyr, na fu ein hymweliad ni â chwi yn ofer;
2
eithr er dioddef ohonom o’r blaen a’n sarhau, fel y gwyddoch, yn Philipi, ymwrolasom yn ein Duw i draethu i chwi efengyl Duw yng nghanol ymdrech fawr.
3
Canys nid yw ein hapêl ni o gyfeiliornad nac o amhurdeb na thrwy ddichell;
4
eithr, fel rhai a gymeradwywyd gan Dduw i ymddiried iddynt am yr efengyl, felly y llefarwn, nid i foddio dynion, ond y Duw a brawf ein calonnau.
5
Canys ni chaed ni un amser a chennym ymadrodd gweniaith, fel y gwyddoch, na than gochl hunan-gais — Duw yn dyst;
6
ac ni cheisiasom glod gan ddynion, na chennych chwi na chan arall, er y gallem wasgu arnoch fel apostolion Crist;
7
eithr buom dyner yn eich mysg fel mamaeth yn maethu ei phlant ei hun:
8
felly y dymunem, gan gymaint ein serch tuag atoch, gyfrannu i chwi nid yn unig efengyl Duw, eithr hyd yn oed ein bywyd, oblegid daethoch yn annwyl gennym.
9
Canys cof gennych, frodyr, am ein llafur a’n lludded: gan weithio nos a dydd rhag pwyso ohonom ar neb ohonoch, pregethasom i chwi efengyl Duw.
10
Tystion ydych chwi a Duw mor sanctaidd a chyfiawn a difeius yr ymddygasom tuag atoch chwi sy’n credu,
11
a’r modd, fel y gwyddoch, y buom i chwi bob un ohonoch fel tad i’w blant ei hun,
12
yn eich annog a’ch calonogi a’ch tynghedu i rodio’n deilwng o’r Duw a’ch galwodd i’w deyrnas Ei Hun a’i ogoniant.
13
Am hyn, hefyd, diolchwn yn ddibaid i Dduw am i chwi, pan dderbyniasoch air cenadwri Duw oddi wrthym ni, ei dderbyn, nid fel gair dynion, eithr — yr hyn yw yn ddilys — fel gair Duw a weithia yn effeithiol ynoch chwi y credinwyr.
14
Canys aethoch chwi, frodyr, i efelychu eglwysi Duw yng Nghrist Iesu sydd yn Iwdea; oblegid dioddefasoch chwithau hefyd ar law eich cyd-genedl yn yr un modd â hwythau ar law yr Iddewon,
15
a laddodd yr Arglwydd Iesu a’r proffwydi, ac a’n herlidiodd ninnau; y rhai sydd yn digio Duw a gwrthwynebu pob dyn,
16
trwy warafun inni bregethu i’r cenhedloedd i’w hachub; nes cyflawni ohonynt yn wastadol fesur eu pechodau. Eithr y digofaint a ddaeth arnynt hyd yr eithaf.
17
A ninnau, frodyr, wedi ein gwahanu oddi wrthych dros ennyd awr, o ran golwg ac nid o ran calon, a fuom mewn hiraeth mawr yn taer ddymuno gweled eich wyneb.
18
Am hynny chwenychasom ddyfod atoch — myfi Pawl unwaith a dwywaith — ond Satan a’n rhwystrodd.
19
Canys beth yw ein gobaith, ein llawenydd, a choron ein hymffrost — beth onid chwychwi? — gerbron ein Harglwydd Iesu yn Ei ddyfodiad; Yn wir, chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5