bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Timothy 2
1 Timothy 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
1
Yr wyf yn annog, ynteu, yn gyntaf oll, offrymu ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau dros ddynion oll;
2
dros frenhinoedd a phawb sy ben, fel y treuliom ein dyddiau yn llonydd a thawel gyda phob duwioldeb a sobrwydd.
3
Hyn sydd dda a derbyniol gan Dduw ein Hiachawdwr,
4
yr hwn a fyn fod pob dyn wedi ei achub a dyfod i wybod y gwirionedd.
5
Canys un Duw sydd, un canolwr hefyd rhwng Duw a dynion, sef y dyn Crist Iesu,
6
yr hwn a’i rhoes ei hun yn bridwerth dros bawb — y dystiolaeth mewn iawn bryd:
7
i hon y’m gosodwyd i’n bregethwr ac apostol (gwir a ddywedaf ac nid celwydd), yn athro i’r cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.
8
Dymunaf, ynteu, am i’r gwŷr weddïo ym mhob lle, gan ddyrchafu dwylo santaidd heb lid nac ymryson.
9
Yr un modd y gwragedd, ymdrwsient mewn diwyg weddaidd, yn wylaidd a synhwyrol: nid â phlethiadau gwallt ac aur, neu berlau, neu ddillad drudfawr,
10
ond, fel y gweddai i wragedd sy’n proffesu duwioldeb, â gweithredoedd da.
11
Dysged gwraig yn dawel gyda chwbl ymostyngiad.
12
Nid wyf yn caniatáu wraig addysgu na chwaith awdurdodi ar ŵr, ond bod yn dawel.
13
Canys Adda yn gyntaf a luniwyd, yna Efa.
14
Ac Adda nis twyllwyd, ond y wraig o’i llwyr dwyllo a aeth i gamwedd.
15
Eithr achubir hwynt wrth ddwyn plant os arhosant mewn ffydd a chariad a santeiddrwydd ynghyda synnwyr da.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6