bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Timothy 4
1 Timothy 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Eto y mae’r ysbryd yn dywedyd yn eglur y gwrthgilia rhai oddi wrth y ffydd yn yr amseroedd diwethaf, gan roi coel ar ysbrydion camarweiniol a dysgeidiaeth daimoniaid, a ddysg gau athrawon
2
wedi eu serio yn eu cydwybod,
3
sydd yn gwahardd priodi, yn erchi ymwrthod â bwydydd a greodd Duw i’w cymryd gyda diolch gan y rhai sydd yn credu ac yn adnabod y gwirionedd.
4
Canys popeth a greodd Duw, da ydyw, ac nid oes dim ysgymun o’i dderbyn gyda diolch,
5
canys fe’i cysegrir gan air Duw a deisyfiad.
6
O osod y pethau hyn gerbron y brodyr, gwas da i Iesu Grist fyddi, yn dy feithrin dy hun yng ngeiriau’r ffydd a’r ddysg ragorol y glyni wrthi.
7
Ond anghysegredig a gwrachïaidd chwedlau, gochel, eithr ymarfer dy hun i dduwioldeb,
8
canys y mae ymarfer corff yn fuddiol dros ychydig, ond y mae duwioldeb yn fuddiol i bopeth, a chanddo addewid am y bywyd y sydd ac a fydd.
9
Gwir yw y gair a theilwng o bob croeso;
10
canys er mwyn hyn y llafuriwn ac yr ymorchestwn, am inni osod ein gobaith ar Dduw byw y sydd achubwr dynion oll, yn enwedig credinwyr.
11
Gorchymyn ac addysga’r pethau hyn.
12
Na ddirmyged neb dy ieuenctid di, eithr bydd yn esiampl i’r credinwyr mewn ymddiddan, mewn ymddygiad, mewn cariad, mewn ffyddlondeb, mewn purdeb.
13
Hyd oni ddelwyf, dyro sylw i’r darllen, i’r cynghori, ac i’r addysgu.
14
Nac esgeulusa’r ddawn sydd ynot, a roddwyd iti trwy fynegiad proffwydol ynghydag arddodiad dwylo’r henuriaeth.
15
Bydd ddyfal gyda’r pethau hyn; bydd fyw ynddynt, fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb.
16
Gwylia arnat dy hun ac ar dy ddysgeidiaeth, dal ati; o wneuthur hyn, ti a’th achubi dy hun a’th wrandawyr hefyd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6