bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Timothy 6
1 Timothy 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
1
Cynifer ag sydd gaethweision tan iau, cyfrifent hwy eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd, fel na chabler enw Duw na’r ddysgeidiaeth.
2
Ac nac aed y rhai y mae ganddynt gredinwyr o feistriaid yn eofn arnynt, am eu bod yn frodyr, eithr rhoddent wasanaeth rhagorach, am fod y rhai sy’n cyfranogi o’u rhagorwaith yn gredinwyr ac anwyliaid. Y pethau hyn, addysga ac annog.
3
Os addysga neb ddim dieithr, heb gytuno â geiriau iach ein Harglwydd Iesu Grist a’r ddysgeidiaeth sydd yn ôl duwioldeb,
4
chwyddedig yw ef heb ddeall dim, ond dan glefyd holi cwestiynau a dadlau; hyn sy’n peri cenfigen, ymryson, enllibau, drwgdybiau anfad, a chroesdynnu parhaus
5
dynion dirywiedig eu meddwl ac amddifad o’r gwirionedd, sydd yn tybied mai elw yw duwioldeb.
6
Ond elw mawr yw duwioldeb, a bod yn fodlon;
7
canys ni ddygasom ddim i’r byd, ac yn wir, ni allwn chwaith ddwyn dim allan ohono.
8
Ond a chennym gynhaliaeth a chlydwch, ar hyn ymfodlonwn.
9
Eithr y rhai a chwennych fod yn gyfoethog, syrthiant i brofedigaeth a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, sy’n soddi dynion i ddistryw a cholledigaeth.
10
Canys gwreiddyn i’r drygau oll ydyw ariangarwch, a rhai yn chwannog i hyn, crwydrasant oddi wrth y ffydd a’u gwanu eu hunain ag ingoedd lawer.
11
Eithr tydi, ŵr Duw, ffo rhag y rhain, a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffyddlondeb, cariad, dioddefgarwch, addfwynder.
12
Dal i ymdrechu rhagorol ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i hwn y’th alwyd ac y dygaist dy gyffes aruchel yngŵydd tystion lawer.
13
Rhybuddiaf di yngŵydd Duw a rydd fywyd i bopeth, a Christ Iesu a dystiodd o flaen Pontius Pilat ei gyffes odidog,
14
i gadw dy gomisiwn yn ddiystaen a diargyhoedd hyd amlygiad ein Harglwydd Iesu Grist;
15
hyn mewn iawn bryd a arddengys ef, y bendigaid a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi.
16
Ef yn unig biau anfarwoldeb; ei gyfannedd yw’r goleuni na ellir nesáu ato, nas gwelodd un dyn, ac na all chwaith ei weled. Iddo ef y bo anrhydedd a gallu yn oes oesoedd, Amen.
17
Y rhai sydd gyfoethog yn y byd presennol, rhybuddia na bônt uchelfryd, na gosod chwaith eu gobaith ar ansicrwydd golud, eithr yn hytrach ar Dduw, sydd yn darpar yn gyfoethog bopeth inni i’w mwynhau;
18
gwneuthur daioni, bod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael a pharod i rannu,
19
gan drysori iddynt eu hunain sail dda erbyn y dyfodol, fel y cymerant afael ar y bywyd sydd yn fywyd yn wir.
20
O Timotheus, gwarchod dy adnau, gan droi oddi wrth anghysegredig wâg siaradach a chroes-ddweud y wybodaeth a gamenwir felly;
21
wrth broffesu hon collodd rhai eu gafael ar y ffydd. Gras fyddo gyda chwi.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
All chapters:
1
2
3
4
5
6