bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Timothy 3
1 Timothy 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
Gwir yw y gair. Os yw neb yn chwennych arolygiaeth, gorchwyl anrhydeddus y mae yn ei chwennych.
2
Dylai arolygwr fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn sobr, yn bwyllog, yn weddus, yn lletygar, yn athrawaidd:
3
nid yn feddwyn, nid yn ymladdgar, eithr yn ddyn teg, digynnen, anariangar;
4
yn rheoli ei deulu ei hun yn iawn, a chadw ei blant mewn trefn gyda phob parchusrwydd
5
(oni ŵyr dyn sut i reoli ei deulu ei hun, pa fodd y gofala dros eglwys Dduw?);
6
nid yn newyddian, rhag iddo ymchwyddo a dyfod dan gollfarn diafol.
7
Dylai gael gair da gan y rhai oddi allan, rhag iddo syrthio dan warth ac i fagl diafol.
8
Yr un modd dylai diaconiaid fod yn barchus, nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn fudrelwyr,
9
yn cadw cyfrinach y ffydd mewn cydwybod bur.
10
A rhodder y rhain hefyd ar brawf yn gyntaf; yna, os byddant yn ddiargyhoedd, byddent ddiaconiaid.
11
Dylai eu gwragedd yr un modd fod yn barchus, nid yn rhai enllibus, ond yn sobr, ffyddlon ym mhopeth.
12
Boed diaconiaid yn wŷr un wraig, yn rheoli eu plant yn iawn a’u tai eu hunain.
13
Canys y rhai a wasnaethodd yn deilwng fel diaconiaid sydd yn ennill iddynt eu hunain safle anrhydeddus a hyder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu.
14
Y pethau hyn a sgrifennaf atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder,
15
fel y gwypych, os oedaf, pa fodd y dylid ymddwyn yn nheulu Duw y sydd eglwys Duw byw, colofn ac ateg y gwirionedd.
16
Ac addefedig yw, mawr yw cyfrinach duwioldeb; Yr hwn a amlygwyd yn y cnawd, A gyfiawnhawyd yn yr ysbryd, A welwyd gan angylion, A gyhoeddwyd ymhlith y cenhedloedd, Y credwyd ynddo yn y byd, A gymerwyd i fyny mewn gogoniant.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6