bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Timothy 5
1 Timothy 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
1
Na ddyro gerydd chwyrn i hynafgwr, eithr annog ef fel petai dad iti, a’r gwŷr ieuainc fel brodyr;
2
yr hynafwragedd fel mamau, a’r merched ieuainc fel chwiorydd, yn gwbl bur.
3
I’r gweddwon di-gefn, dyro gymorth.
4
Eithr od oes gan weddw blant neu ŵyrion, dysgent fyw yn dduwiol yn gyntaf yn eu teulu eu hunain, ac ad-dalu i’w hynafiaid, canys hyn sy dderbyniol gan Dduw.
5
Ond y weddw ddi-gefn ac unig, y mae ei gobaith hi ar Dduw, a phery yn ei hymbiliau a’i gweddïau nos a dydd.
6
Ond y weddw drythyll, y mae hi wedi marw a hithau’n fyw.
7
Y pethau hyn gorchymyn, fel y byddont yn ddiargyhoedd.
8
Eithr oni ddarpar dyn ar gyfer ei dylwyth, ac yn enwedig ei deulu, y mae wedi gwadu’r ffydd, a gwaeth yw nag anghredadun.
9
Rhaid i weddw a gofrestrir fod o leiaf yn drigain mlwydd oed, a fu yn wraig un gŵr,
10
ac enw iddi am weithredoedd da; iddi fagu plant, iddi letya dieithriaid, iddi olchi traed saint, iddi gynorthwyo rhai adfydus, a dilyn pob gwaith da.
11
Ond gwrthod weddwon ieuainc, canys pan ymdrythyllont yn erbyn Crist, priodi a fynnant
12
a dyfod dan farn am iddynt ddiddymu eu hadduned gyntaf.
13
Ynghyda hyn dysgant fod yn segur, gan wibio o dŷ i dŷ, ac nid yn segur yn unig, eithr hefyd yn gegog ac ymyrgar, ac yn adrodd pethau na ddylid.
14
Gwell gennyf, ynteu, i weddwon ieuainc briodi, dwyn plant, a gwarchod cartref, heb roddi unrhyw gyfle i’r gelyn i’n difenwi.
15
Canys eisoes gwyrodd rhai ar ôl Satan.
16
Od oes gan wraig grediniol weddwon, estynned gymorth iddynt, ac na feichier yr eglwys, fel y gallo hi gynorthwyo’r gweddwon di-gefn.
17
Yr henuriaid sy’n llywyddu’n dda, cyfrifer hwy’n deilwng o barch deublyg, yn enwedig y rhai sy’n llafurio trwy bregethu ac addysgu.
18
Canys dywed yr Ysgrythur, Na rwyma safn yr ych sy’n sathru’r ŷd, hefyd Teilwng yw’r gweithiwr o’i gyflog.
19
Na dderbyn gyhuddiad yn erbyn henuriad, oddieithr ar dystiolaeth dau neu dri.
20
Y rhai sy’n dal i bechu, cerydda hwynt yngŵydd pawb, fel y caffo’r gweddill hefyd ofn.
21
Tynghedaf di yngŵydd Duw a Christ Iesu a’i ddewis angylion, i gadw’r cyfarwyddiadau hyn, heb na rhagfarn na chwaith wneuthur dim o ffafraeth.
22
Na ddod ddwylo yn frysiog ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill. Cadw dy hun yn bur.
23
Na fydd ddyfrwr yn hwy, ond cymer ychydig win er mwyn dy gylla a’th fynych wendid.
24
Am rai dynion, y mae eu pechodau yn amlwg, yn eu tywys i farn; am rai eraill, y maent yn dilyn ar eu hôl.
25
Yr un modd, y mae gweithredoedd da hefyd yn amlwg, a’r rhai sydd amgen ni ellir eu cuddio.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6