bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Samuel 20
2 Samuel 20
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
1
Roedd yna ddyn o lwyth Benjamin yno ar y pryd — Sheba fab Bichri, dyn drwg oedd yn codi twrw. Dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd a gweiddi, “Does gynnon ni ddim i'w wneud â Dafydd! Dŷn ni ddim yn perthyn i deulu Jesse! Yn ôl adre bobl Israel!”
2
Felly dyma ddynion Israel i gyd yn gadael Dafydd a dilyn Sheba fab Bichri. Ond arhosodd dynion Jwda gyda'r brenin a mynd gydag e o'r Afon Iorddonen i Jerwsalem.
3
Wedi cyrraedd y palas yn Jerwsalem dyma Dafydd yn trefnu fod y deg cariad roedd e wedi eu gadael i ofalu am y palas i'w cadw dan warchodaeth. Trefnodd fod ganddyn nhw bopeth roedden nhw ei angen, ond gafodd e ddim perthynas gyda nhw byth eto. Buon nhw'n byw fel gweddwon, dan glo am weddill eu bywydau.
4
Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Amasa, “Dos i gasglu milwyr Jwda ata i, a bydd yn ôl yma cyn pen tridiau.”
5
I ffwrdd ag Amasa i gasglu milwyr Jwda at ei gilydd, ond cymerodd fwy o amser nag a roddodd Dafydd iddo.
6
Felly dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai, “Mae Sheba fab Bichri yn mynd i achosi mwy o helynt i mi nag Absalom! Cymer y dynion sydd gen i a dos ar ei ôl, rhag iddo gipio trefi caerog oddi arnon ni a llwyddo i ddianc.”
7
Felly dyma ddynion Joab yn gadael Jerwsalem gyda gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid) a'r milwyr gorau eraill i gyd, a mynd ar ôl Sheba fab Bichri.
8
Pan gyrhaeddon nhw'r graig fawr sydd yn Gibeon roedd Amasa yn dod i'w cyfarfod. Roedd Joab yn ei lifrai milwrol, gyda cleddyf yn ei wain ar y belt oedd am ei ganol. Wrth iddo gamu ymlaen dyma'r cleddyf yn syrthio ar lawr.
9
Dyma fe'n cyfarch Amasa, “Sut wyt ti frawd?” Yna gafaelodd ym marf Amasa gyda'i law dde wrth ei gyfarch gyda chusan.
10
Doedd Amasa ddim wedi sylwi ar y dagr oedd yn llaw chwith Joab, a dyma Joab yn ei drywanu yn ei fol nes i'w berfedd dywallt ar lawr. Doedd dim rhaid ei drywanu yr ail waith, roedd yr ergyd gyntaf wedi ei ladd. Yna dyma Joab a'i frawd Abishai yn mynd yn ei blaenau ar ôl Sheba fab Bichri.
11
Dyma un o swyddogion ifanc Joab yn sefyll wrth gorff Amasa a gweiddi, “Pawb sydd o blaid Joab ac yn cefnogi Dafydd, dilynwch Joab!”
12
(Roedd Amasa yn gorwedd yno mewn pwll o waed ar ganol y ffordd.) Pan welodd y swyddog fod y milwyr i gyd yn aros i edrych ar y corff yn lle mynd heibio, dyma fe'n llusgo'r corff o'r ffordd i'r cae a thaflu clogyn drosto.
13
Wedi i'r corff gael ei symud o'r ffordd dyma'r fyddin i gyd yn dilyn Joab i fynd ar ôl Sheba fab Bichri.
14
Roedd Sheba wedi teithio o gwmpas llwythau Israel i gyd, a cyrraedd Abel-beth-maacha. Roedd y llwythau eraill wedi ei wrthod, ond cafodd ei bobl ei hun, y Bichriaid, i'w ganlyn.
15
Yna dyma Joab a'i ddynion yn cyrraedd yno, a gwarchae ar Abel-beth-maacha. Roedden nhw wedi codi ramp yn erbyn wal y dref. Wrth i filwyr Joab geisio torri trwy'r wal a'i chwalu,
16
dyma ryw wraig ddoeth o'r dref yn gweiddi arnyn nhw, “Gwrandwch! Gwrandwch! Dwedwch wrth Joab am ddod yma. Mae gen i rywbeth i'w ddweud wrtho.”
17
Pan aeth Joab ati, dyma'r wraig yn gofyn iddo, “Ai ti ydy Joab?” “Ie,” meddai. A dyma hi'n dweud, “Gwranda, mae gan dy forwyn awgrym.” “Dw i'n gwrando,” meddai.
18
A dyma hi'n dweud wrtho, “Mae yna hen ddywediad, ‘Os ydych chi eisiau setlo unrhyw fater, ewch i ofyn cyngor yn Abel.’
19
Dw i'n un o'r rhai ffyddlon sydd eisiau gweld heddwch yn Israel. Ond rwyt ti yma'n ceisio dinistrio un o drefi pwysica'r wlad. Pam wyt ti eisiau difetha tref sy'n perthyn i'r ARGLWYDD?”
20
Dyma Joab yn ateb, “Dim o'r fath beth! Dw i ddim eisiau dinistrio na difetha'r dre!
21
Dim fel yna mae hi o gwbl. Mae yna ddyn o fryniau Effraim o'r enw Sheba fab Bichri wedi troi yn erbyn y brenin Dafydd. Dim ond i chi roi'r dyn hwnnw i mi, gwna i adael llonydd i'r dre.” “Iawn,” meddai'r wraig, “Gwnawn ni daflu ei ben e dros wal y dre i ti!”
22
Felly dyma'r wraig yn rhannu ei chyngor doeth gyda'r bobl. A dyma nhw'n torri pen Sheba fab Bichri, a'i daflu allan i Joab. A dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, a gadawodd y fyddin y dre ac aeth pawb adre. Aeth Joab ei hun yn ôl i Jerwsalem at y brenin.
23
Joab oedd pennaeth byddin gyfan Israel. Benaia fab Jehoiada oedd yn arwain gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid).
24
Adoniram oedd yn gyfrifol am y gweithlu gorfodol. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin.
25
Shefa oedd yr Ysgrifennydd Gwladol. Sadoc ac Abiathar oedd yr offeiriaid.
26
Ac Ira o deulu Jair oedd caplan personol Dafydd.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24