bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Samuel 6
2 Samuel 6
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
1
Unwaith eto dyma Dafydd yn casglu milwyr gorau Israel at ei gilydd. Roedd yna dri deg mil ohonyn nhw.
2
Dyma nhw'n mynd gyda Dafydd i Baäla yn Jwda i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n eistedd ar ei orsedd uwch ben y ceriwbiaid.
3
[3-4] Dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar gert newydd a'i symud hi o dŷ Abinadab, oedd ar ben bryn. Roedd Wssa ac Achïo, meibion Abinadab, yn arwain y cert — Wssa wrth ymyl yr Arch, ac Achïo'n cerdded o'i blaen.
5
Ac roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu gyda hwyl o flaen yr ARGLWYDD, a canu i gyfeiliant pob math o offerynnau. Roedd ganddyn nhw delynau a nablau, drymiau, castanetau a symbalau.
6
Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Nachon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law a gafael yn Arch Duw.
7
Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa am y fath amarch. Cafodd ei daro'n farw yn y fan a'r lle wrth ymyl Arch Duw.
8
Roedd Dafydd wedi gwylltio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa. Dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). A dyna ydy enw'r lle hyd heddiw.
9
Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch yr ARGLWYDD ddod ata i?” meddai.
10
Doedd e ddim yn fodlon gadael i Arch yr ARGLWYDD fynd gydag e i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath.
11
Arhosodd Arch yr ARGLWYDD yn nhŷ Obed-edom am dri mis. A dyma'r ARGLWYDD yn bendithio Obed-edom a'i deulu i gyd.
12
Daeth Dafydd i glywed fod yr ARGLWYDD wedi bendithio Obed-edom a'i deulu am fod Arch Duw yno. Felly dyma Dafydd yn mynd i dŷ Obed-edom i'w nôl hi, a mynd â hi i Ddinas Dafydd, gyda dathlu mawr.
13
Pan oedd y rhai oedd yn cario Arch yr ARGLWYDD wedi cerdded dim ond chwe cham, dyma Dafydd yn aberthu ychen a llo wedi ei besgi i Dduw.
14
Roedd Dafydd yn gwisgo effod o liain main, ac yn dawnsio â'i holl egni o flaen yr ARGLWYDD.
15
Roedd e a holl bobl Israel yn hebrwng Arch yr ARGLWYDD gan weiddi'n llawen a chanu'r corn hwrdd.
16
Wrth i Arch yr ARGLWYDD gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal, merch Saul, yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin yn neidio a dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato.
17
Dyma nhw'n dod ag Arch yr ARGLWYDD, a'i gosod yn ei lle yn y babell roedd Dafydd wedi ei chodi iddi. Yna dyma Dafydd yn cyflwyno offrymau i'w llosgi, ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
18
Wedi i Dafydd orffen offrymu'r anifeiliaid, dyma fe'n bendithio'r bobl ar ran yr ARGLWYDD holl-bwerus.
19
Ac wedyn dyma fe'n rhannu bwyd i holl bobl Israel, y dynion a'r merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen ddatys a teisen rhesin. Yna aeth pawb adre.
20
Pan aeth Dafydd adre i fendithio ei deulu ei hun, dyma Michal, merch Saul, yn dod allan i'w gyfarfod. Ac meddai wrtho, “Wel, wel! Dylech fod wedi gweld brenin Israel heddiw! Dyna ble roedd e yn fflachio o flaen caethferched ei swyddogion, yn dangos popeth iddyn nhw fel rhyw ffŵl coman!”
21
Ond dyma Dafydd yn ei hateb, “Na, dawnsio o flaen yr ARGLWYDD oeddwn i — yr un wnaeth fy newis i yn lle dy dad a dy deulu di. Dewisodd fi yn arweinydd ar bobl Israel, pobl yr ARGLWYDD. O'i flaen e
22
dw i'n fodlon gwneud mwy o ffŵl ohono i fy hun. Falle fod gen ti gywilydd ohono i, ond bydd y caethferched wyt ti'n sôn amdanyn nhw yn fy mharchu i!”
23
Wnaeth Michal, merch Saul, ddim cael plant o gwbl.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24