bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Samuel 23
2 Samuel 23
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
1
Dyma eiriau olaf Dafydd: “Neges Dafydd fab Jesse. Neges yr un gafodd ei godi'n arweinydd, a'i eneinio gan Dduw Jacob. Neges hoff ganwr Israel.
2
Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD yn siarad trwof fi; ei neges e oeddwn i'n ei rhannu.
3
Mae Duw Israel wedi siarad. Dyma mae Craig Israel yn ei ddweud: ‘Mae'r un sy'n llywodraethu'n deg, gan roi parch i Dduw,
4
fel golau haul ar fore braf digwmwl yn gwneud i'r glaswellt dyfu o'r ddaear a sgleinio ar ôl y glaw.’
5
Ie, dyna sut mae Duw'n gweld fy nheulu! Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi. Mae'r cwbl wedi ei drefnu — mae'n siŵr o ddigwydd! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddo ac yn dod â'r cwbl dw i eisiau yn wir.
6
Ond mae dynion drwg fel drain sy'n dda i ddim ond i'w torri i lawr. Does neb yn gafael ynddyn nhw â'u dwylo,
7
dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon. Mae tân yn eu llosgi'n ulw yn y fan a'r lle!”
8
Dyma enwau milwyr dewr Dafydd: Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth ‛Y Tri‛. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.
9
Yna'r nesa ato fe o'r ‛Tri Dewr‛ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi,
10
ond dyma fe'n sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff!
11
Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid,
12
ond roedd Samma wedi sefyll ei dir yng nghanol y cae, i'w amddiffyn. Roedd wedi ymosod ar y Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo.
13
Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri o'r ‛Tri deg‛ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm.
14
Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra roedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem.
15
Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!”
16
Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd trwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod a'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt ar lawr yn offrwm i'r ARGLWYDD,
17
a dweud, “ARGLWYDD, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro eu bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.)
18
Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‛Tri deg‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd e'n enwog fel y Tri.
19
I ddweud y gwir roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un o'r ‛Tri‛.
20
Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira.
21
Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.
22
Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛.
23
Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.
24
Yna gweddill y ‛Tri deg‛ oedd: Asahel, brawd Joab, Elchanan fab Dodo o Bethlehem,
25
Shamma o Charod, Elica o Charod,
26
Chelets o Pelet, Ira fab Iccesh o Tecoa,
27
Abieser o Anathoth, Mefwnnai o Chwsha,
28
Salmon o deulu Achoach, Maharai o Netoffa,
29
Cheleb fab Baana o Netoffa, Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin,
30
Benaia o Pirathon, Hidai o Wadi Gaash,
31
Abi-albon o Arba, Asmafeth o Bachwrîm,
32
Eliachba o Shaalbon, Meibion Iashen, Jonathan fab
33
Shamma o Harar, Achïam fab Sharar o Harar,
34
Eliffelet fab Achasbai o Maacha, Eliam fab Achitoffel o Gilo,
35
Chetsrai o Carmel, Paarai o Arba,
36
Igal fab Nathan o Soba, Bani o Gad,
37
Selec o Ammon, Nachrai o Beëroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),
38
Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,
39
ac Wreia yr Hethiad. (Tri deg saith i gyd.)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24