bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Samuel 5
2 Samuel 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
1
Dyma'r rhai oedd yn arwain llwythau Israel i gyd yn dod i Hebron at Dafydd, a dweud wrtho, “Edrych, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd.
2
Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel ac yn dod â nhw adre. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’”
3
Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma'r brenin yn gwneud cytundeb gyda nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan.
4
Roedd Dafydd yn dri deg oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am bedwar deg o flynyddoedd.
5
Bu'n frenin ar Jwda yn Hebron am saith mlynedd a hanner, ac yna yn frenin yn Jerwsalem ar Jwda ac Israel gyfan am dri deg tair o flynyddoedd.
6
Aeth y brenin a'i filwyr i Jerwsalem i ymladd yn erbyn y Jebwsiaid (y bobl oedd yn byw yn yr ardal honno.) “Ddoi di byth i mewn yma!” medden nhw “Byddai hyd yn oed pobl ddall a chloff yn gallu dy droi di'n ôl!” Doedden nhw ddim yn credu y gallai Dafydd eu gorchfygu nhw.
7
Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd).
8
Roedd wedi dweud y diwrnod hwnnw, “Y ffordd mae rhywun yn mynd i goncro'r Jebwsiaid ydy drwy fynd i fyny'r siafft ddŵr. Dyna sut mae ymosod ar y ‛bobl ddall a chloff‛ yna sy'n casáu Dafydd gymaint.” (A dyna sydd tu ôl i'r dywediad, “Dydy'r dall a'r cloff ddim yn cael mynd i mewn i'r tŷ.”)
9
Aeth Dafydd i fyw i'r gaer, a'i galw yn Ddinas Dafydd. Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas o'r terasau at y palas.
10
Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, gydag e.
11
Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a coed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd.
12
Roedd Dafydd yn gweld mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei wneud yn frenin ar Israel, ac wedi gwneud i'w deyrnas lwyddo'n fawr er mwyn ei bobl Israel.
13
Wedi iddo symud o Hebron i Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o gariadon a gwragedd, ac yn cael mwy o blant eto.
14
Dyma enwau'r plant gafodd eu geni iddo yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon,
15
Ifchar, Elishwa, Neffeg, Jaffia,
16
Elishama, Eliada ac Eliffelet.
17
Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio'n frenin ar Israel, dyma eu byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth i lawr i'r gaer.
18
Roedd byddin y Philistiaid wedi cyrraedd; roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm.
19
Dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di'n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i yn rhoi'r Philistiaid i ti.”
20
Felly aeth Dafydd i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri trwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr,” meddai. A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.
21
Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, felly dyma Dafydd a'i ddynion yn eu cymryd nhw i ffwrdd.
22
Ond dyma'r Philistiaid yn ymosod eto. Roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm.
23
A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i'r ARGLWYDD beth i'w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o'r tu blaen. Dos rownd y tu ôl iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam.
24
Pan fyddi'n clywed sŵn cyffro yn y coed, gweithreda ar unwaith. Dyna'r arwydd fod yr ARGLWYDD yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.”
25
Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho, a taro'r Philistiaid yr holl ffordd o Geba i gyrion Geser.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24