bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Samuel 8
2 Samuel 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
1
Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid ac yn eu gorfodi nhw i ildio iddo.
2
Wedyn dyma fe'n concro Moab. Gwnaeth i'r dynion orwedd mewn rhes ar lawr, a dyma fe'n eu mesur nhw'n grwpiau gyda llinyn. Roedd dau hyd y llinyn i gael eu lladd, ac un hyd llinyn i gael byw. A dyna sut daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo.
3
Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser fab Rechob, brenin talaith Soba yn Syria. Roedd hwnnw ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan yr Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod.
4
Ond dyma Dafydd yn dal mil saith gant o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff.
5
A pan ddaeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dau mil ohonyn nhw hefyd.
6
Wedyn dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syriaid Damascus. Daeth y Syriaid o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd.
7
Aeth Dafydd â'r tariannau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem.
8
A cymerodd lot fawr o bres hefyd o Betach a Berothai, trefi Hadadeser.
9
Pan glywodd Toi, brenin Chamath, fod Dafydd wedi concro byddin Hadadeser i gyd,
10
dyma fe'n anfon ei fab Joram at Dafydd i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Aeth Joram â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e.
11
A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi ei gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro,
12
sef Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid, a'r ysbail roedd wedi ei gymryd oddi ar Hadadeser fab Rechob, brenin Soba.
13
Daeth Dafydd yn enwog hefyd ar ôl iddo daro un deg wyth mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen.
14
A dyma fe'n gosod garsiynau ar hyd a lled Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd e'n mynd.
15
Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg.
16
Joab (mab Serwia) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin.
17
Sadoc fab Achitwf ac Achimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Seraia oedd ei ysgrifennydd gwladol.
18
Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid). Ac roedd meibion Dafydd yn offeiriaid.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24