bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Micah 1
Micah 1
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 2 →
1
Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Micha o Moresheth. Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda. Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem.
2
Gwrandwch, chi bobl i gyd! Cymrwch sylw, bawb sy'n byw drwy'r byd! Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn; mae'n eich cyhuddo chi o'i deml sanctaidd.
3
Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD yn dod! Mae'n dod i lawr ac yn sathru'r mynyddoedd!
4
Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed, a'r dyffrynnoedd yn hollti. Bydd y creigiau'n toddi fel cwyr mewn tân, ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau.
5
Pam? Am fod Jacob wedi gwrthryfela, a pobl Israel wedi pechu. Sut mae Jacob wedi gwrthryfela? Samaria ydy'r drwg! Ble mae allorau paganaidd Jwda? Yn Jerwsalem!
6
“Dw i'n mynd i droi Samaria yn bentwr o gerrig mewn cae agored — bydd yn lle i blannu gwinllannoedd! Dw i'n mynd i hyrddio ei waliau i'r dyffryn a gadael dim ond sylfeini'n y golwg.
7
Bydd ei delwau'n cael eu dryllio, ei thâl am buteinio yn llosgi'n y tân, a'r eilunod metel yn bentwr o sgrap! Casglodd nhw gyda'i thâl am buteinio, a byddan nhw'n troi'n dâl i buteiniaid eto.”
8
Dyna pam dw i'n galaru a nadu, a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau; yn udo'n uchel fel siacaliaid, a sgrechian cwyno fel cywion estrys.
9
Fydd salwch Samaria ddim yn gwella! Mae wedi lledu i Jwda — mae hyd yn oed arweinwyr fy mhobl yn Jerwsalem wedi dal y clefyd!
10
‛Peidiwch dweud am y peth yn Gath!‛ Peidiwch crïo rhag iddyn nhw eich clywed! Bydd pobl Beth-leaffra yn rholio yn y llwch.
11
Bydd pobl Shaffir yn pasio heibio yn noeth ac mewn cywilydd. Bydd pobl Saänan yn methu symud, a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru — fydd hi ddim yn dy helpu eto.
12
Bydd pobl Maroth yn aflonydd wrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwydd na'r difrod mae'r ARGLWYDD wedi ei anfon, ac sy'n gwasgu ar giatiau Jerwsalem.
13
Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau, bobl Lachish! Chi wnaeth wrthryfela fel Israel ac arwain pobl Seion i bechu!
14
Bydd rhaid i chi ddweud ffarwél wrth Moresheth-gath, a bydd tai Achsib yn siomi — bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel.
15
Bobl Maresha, bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref, a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam eto.
16
Felly, Jerwsalem, siafia dy ben i alaru am y plant rwyt ti'n dotio atyn nhw. Gwna dy dalcen yn foel fel y fwltur, am fod y gelyn yn mynd i'w cymryd nhw'n gaeth.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7