bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Micah 2
Micah 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 3 →
1
Gwae nhw, y rhai sy'n dyfeisio drygioni a gorweddian ar eu gwlâu yn cynllwynio. Wedyn codi gyda'r wawr i wneud y drwg — maen nhw'n gwneud beth maen nhw eisiau.
2
Maen nhw'n cymryd y tir maen nhw'i eisiau, ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl. Maen nhw'n cipio cartrefi trwy dwyll a thrais ac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill.
3
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma. Fydd dim modd i chi ddianc! Dim mwy o swancio i chi! — mae pethau'n mynd i fod yn ddrwg!
4
Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chi drwy ganu galarnad i chi'n sbeitlyd — ‘Mae ar ben arnon ni! Mae ein tir yn cael ei werthu! Mae Duw wedi cymryd y cwbl, a rhoi ein tir i fradwyr anffyddlon!’”
5
Felly fydd neb yn mesur y tir eto i chi gael siâr ohono gyda phobl yr ARGLWYDD.
6
“Stopia falu awyr!” medden nhw'n lloerig. “Ddylai neb siarad fel yna! Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.”
7
Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? — “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn colli ei dymer. Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!” “Mae'r pethau da dw i'n eu haddo yn digwydd i'r rhai sy'n byw yn iawn.
8
Ond yn ddiweddar mae fy mhobl wedi codi yn fy erbyn fel gelyn. Dych chi'n dwyn y fantell a'r crys oddi ar bobl ddiniwed sy'n pasio heibio fel milwyr yn dod adre o ryfel.
9
Dych chi'n gyrru gweddwon o'u cartrefi clyd, a dwyn eu heiddo oddi ar eu plant am byth.
10
Felly symudwch! I ffwrdd â chi! Does dim lle i chi orffwys yma! Dych chi wedi llygru'r lle, ac wedi ei ddifetha'n llwyr!
11
Petai rhywun yn dod heibio yn malu awyr a thwyllo, ‘Dw i'n addo y cewch chi joio digonedd o win a chwrw!’ — byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw!
12
Bydda i'n eich casglu chi i gyd, bobl Jacob. Bydda i'n galw pawb sydd ar ôl yn Israel at ei gilydd fel defaid mewn corlan. Byddwch fel praidd yng nghanol eu porfa yn brefu, yn dyrfa enfawr o bobl.
13
Bydd yr un sy'n torri trwodd yn eu harwain nhw allan i ryddid. Byddan nhw'n mynd allan drwy'r giatiau a gadael gyda'u brenin ar y blaen. Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn eu harwain!”
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7