bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Micah 3
Micah 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 4 →
1
Yna dywedais, “Gwrandwch, arweinwyr Jacob, chi sy'n arwain pobl Israel. Dylech wybod beth ydy cyfiawnder!
2
Ond dych chi'n casáu'r da ac yn caru'r drwg! Dych chi'n blingo fy mhobl yn fyw, ac yn ymddwyn fel canibaliaid!
3
Dych chi'n bwyta cnawd fy mhobl, yn eu blingo nhw'n fyw a malu eu hesgyrn. Torri eu cyrff yn ddarnau fel cig i'w daflu i'r crochan.”
4
Ryw ddydd byddan nhw'n galw ar yr ARGLWYDD am help, ond fydd e ddim yn ateb. Bydd e'n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynny am eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg.
5
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth y proffwydi: “Dych chi'n camarwain fy mhobl! Dych chi'n addo heddwch am bryd o fwyd, ond os na gewch chi'ch talu dych chi'n bygwth rhyfel!
6
Felly bydd hi'n nos arnoch chi, heb weledigaeth — byddwch yn y tywyllwch, yn gallu dehongli dim. Bydd yr haul wedi machlud arnoch chi, a'ch dydd wedi dod i ben!
7
Bydd cywilydd ar y proffwydi, a bydd y dewiniaid wedi drysu. Fyddan nhw'n dweud dim, am fod Duw ddim yn ateb.”
8
Ond dw i, ar y llaw arall, yn llawn o nerth Ysbryd yr ARGLWYDD ac yn credu'n gryf mewn cyfiawnder. Dw i'n herio Jacob am ei wrthryfel, ac yn gwneud i Israel wynebu ei phechod.
9
Gwrandwch, arweinwyr Jacob, chi sy'n arwain pobl Israel — chi sy'n casáu cyfiawnder ac yn gwyrdroi'r gwir.
10
Dych chi'n adeiladu Seion trwy drais, a Jerwsalem trwy lygredd a thwyll.
11
Mae'r barnwyr yn derbyn breib, yr offeiriaid yn dysgu am elw, a'r proffwydi'n dehongli am dâl — tra'n honni pwyso ar yr ARGLWYDD! “Mae'r ARGLWYDD gyda ni!” medden nhw. “Does wir ddim dinistr i ddod!”
12
Felly chi sydd ar fai! Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae, a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig. Bydd y bryn ble mae'r deml yn sefyll yn goedwig wedi tyfu'n wyllt.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7