bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Micah 5
Micah 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 6 →
1
Ar hyn o bryd rwyt ti'n torri dy hun â chyllyll ti ddinas dan ymosodiad! Mae'r gelyn yn gwarchae arnon ni! Maen nhw'n taro arweinydd Israel ar y foch gyda theyrnwialen.
2
Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata, rwyt ti'n un o'r pentrefi lleiaf pwysig yn Jwda. Ond ohonot ti y daw un fydd yn teyrnasu yn Israel — Un sydd â'i wreiddiau yn mynd yn ôl i'r dechrau yn y gorffennol pell.
3
Felly bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pobl Israel i'r gelyn, hyd nes bydd yr un sy'n cael y babi wedi geni'r plentyn. Wedyn bydd gweddill ei deulu yn dod adre at blant Israel.
4
Bydd yn codi i arwain ei bobl fel bugail yn gofalu am ei braidd. Bydd yn gwneud hyn yn nerth yr ARGLWYDD a gydag awdurdod yr ARGLWYDD ei Dduw. Byddan nhw yno i aros, achos bydd e'n cael ei anrhydeddu gan bawb i ben draw'r byd.
5
Bydd e'n dod â heddwch i ni. Os bydd Asyria'n ymosod ar ein tir ac yn ceisio mynd i mewn i'n plastai, bydd digon o arweinwyr i'w rhwystro!
6
Byddan nhw'n rheoli Asyria gyda'r cleddyf; gwlad Nimrod gyda llafnau parod! Bydd ein brenin yn ein hachub pan fydd Asyria'n ymosod ar ein gwlad, ac yn ceisio croesi ein ffiniau.
7
Bydd pobl Jacob sydd ar ôl ar wasgar yng nghanol y bobloedd, fel y gwlith mae'r ARGLWYDD yn ei anfon, neu gawodydd o law ar laswellt — sydd ddim yn dibynnu ar bobl na disgwyl am eu caniatâd cyn dod.
8
Bydd pobl Jacob sydd ar ôl yn byw yn y gwledydd, ar wasgar yng nghanol y bobloedd. Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid — yn rhydd i ladd a rhwygo heb neb i'w stopio.
9
Byddi'n codi dy law i daro'r rhai sy'n dy erbyn, a dinistrio dy elynion i gyd!
10
“Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n cael gwared â'ch arfau i gyd — y ceffylau a'r cerbydau rhyfel.
11
Bydda i'n dinistrio trefi'r wlad ac yn bwrw i lawr y caerau amddiffynnol.
12
Bydda i'n stopio eich dewino a'ch swynion, a fydd neb ar ôl i ddweud ffortiwn.
13
Bydda i'n dinistrio eich delwau cerfiedig a'ch colofnau cysegredig. Fyddwch chi byth eto yn plygu i addoli gwaith eich dwylo eich hunain.
14
Bydda i'n diwreiddio polion y dduwies Ashera, ac yn dinistrio eich eilun-dduwiau.
15
Bydda i'n dial yn wyllt ar y gwledydd sy'n gwrthod gwrando arna i.”
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7