bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Micah 6
Micah 6
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 7 →
1
Gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Codwch i amddiffyn eich hunain o flaen y bryniau a'r mynyddoedd!
2
Chi fynyddoedd a sylfeini'r ddaear gwrandwch ar gyhuddiad yr ARGLWYDD.” (Mae'n dwyn achos yn erbyn ei bobl. Mae ganddo ddadl i'w setlo gydag Israel.)
3
“Fy mhobl, beth wnes i o'i le? Beth wnes i i'ch diflasu chi? Atebwch!
4
Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision. Anfonais Moses i'ch arwain, ac Aaron a Miriam gydag e.
5
Fy mhobl, cofiwch beth roedd Balac, brenin Moab, am ei wneud, a sut wnaeth Balaam fab Beor ei ateb. Cofiwch beth ddigwyddodd rhwng Sittim a Gilgal — i chi weld fod yr ARGLWYDD wedi eich trin yn deg.”
6
Sut alla i dalu i'r ARGLWYDD? Beth sydd gen i i'w gynnig wrth blygu i addoli y Duw mawr? Ydy aberthau i'w llosgi yn ddigon? Y lloi gorau i'w llosgi'n llwyr? Fyddai mil o hyrddod yn ei blesio, neu afonydd diddiwedd o olew olewydd?
7
Ddylwn i aberthu fy mab hynaf yn dâl am wrthryfela? — rhoi bywyd fy mhlentyn am fy mhechod?
8
Na, mae'r ARGLWYDD wedi dweud beth sy'n dda, a beth mae e eisiau gen ti: Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser, a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.
9
“Gwrandwch!” Mae'r ARGLWYDD yn galw pobl Jerwsalem — (Mae'n beth doeth i barchu dy enw, o Dduw.) “Gwrandwch lwyth Jwda a'r rhai sy'n casglu yn y ddinas!
10
Ydw i'n mynd i anwybyddu'r trysorau a gawsoch trwy dwyll, a'r mesur prin, sy'n felltith?
11
Fyddai'n iawn i mi oddef y clorian sy'n dweud celwydd, a'r bag o bwysau ysgafn?
12
Mae'r cyfoethog yn treisio'r tlawd, a'r bobl i gyd yn dweud celwydd — twyll ydy eu hiaith gyntaf nhw!
13
Dw i'n mynd i'ch taro a'ch anafu'n ddifrifol, cewch eich dinistrio am bechu.
14
Byddwch yn bwyta, ond byth yn cael digon. Bydd eich plentyn yn marw'n y groth, cyn cael ei eni; a bydda i'n gadael i'r cleddyf ladd y rhai sy'n cael eu geni!
15
Byddwch yn plannu cnydau ond byth yn medi'r cynhaeaf. Byddwch yn gwasgu'r olewydd ond gewch chi ddim defnyddio'r olew. Byddwch yn sathru'r grawnwin, ond gewch chi ddim yfed y gwin.
16
Dych chi'n cadw deddfau drwg y brenin Omri, ac efelychu arferion drwg y brenin Ahab! — a dilyn eu polisïau pwdr. Felly bydda i'n eich dinistrio chi, a bydd pobl yn eich gwawdio ac yn gwneud sbort am eich pen.”
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7