bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Revelation 18
Revelation 18
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 19 →
1
Yna gwelais angel arall yn dod i lawr o'r nefoedd. Roedd ganddo awdurdod mawr, ac roedd ei ysblander yn goleuo'r ddaear.
2
Cyhoeddodd yn uchel: “Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! Mae wedi troi'n gartref i gythreuliaid ac yn gyrchfan i'r holl ysbrydion drwg ac i bob aderyn aflan, ac i bob anifail aflan a ffiaidd.
3
Mae'r holl genhedloedd wedi yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt. Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda'r butain, ac mae pobl fusnes y ddaear wedi ennill cyfoeth mawr o'i moethusrwydd eithafol.”
4
Wedyn clywais lais arall o'r nefoedd yn dweud: “Fy mhobl, dewch allan o'r ddinas, er mwyn i chi beidio pechu gyda hi. Wedyn bydd y plâu fydd yn dod i'w chosbi hi ddim yn eich cyffwrdd chi.
5
Mae ei phechodau hi yn bentwr anferth i'r nefoedd, ac mae Duw wedi cofio ei holl droseddau hi.
6
Gwna iddi hi beth mae hi wedi ei wneud i eraill; tala nôl iddi ddwywaith cymaint ag mae wedi ei wneud. Rho iddi siâr ddwbl o'i ffisig ei hun!
7
Yn lle'r ysblander a'r moethusrwydd gymerodd iddi ei hun, rho'r un mesur o boen a gofid iddi hi. Mae hi mor siŵr ohoni hi ei hun! ‘Brenhines ydw i, yn eistedd ar orsedd; fydda i ddim yn weddw, a fydd dim rhaid i mi alaru byth!’ meddai.
8
Dyna'n union pam bydd y plâu yn ei tharo'n sydyn: marwolaeth, galar a newyn. Bydd yn cael ei dinistrio gan dân, oherwydd mae'r Arglwydd Dduw sy'n ei barnu hi yn Dduw grymus!
9
“Bydd brenhinoedd y ddaear gafodd ryw gyda'r butain a rhannu ei moethusrwydd, yn crïo'n chwerw wrth weld y mwg yn codi pan gaiff ei llosgi.
10
Byddan nhw'n sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef, ac yn gweiddi: ‘Och! Och! Ti ddinas fawr! Babilon, y ddinas oedd â'r fath rym! — Daeth dy ddiwedd mor sydyn!’
11
“Bydd pobl fusnes y ddaear yn crïo ac yn galaru drosti hi am fod neb yn prynu ei chargo ddim mwy —
12
cargo o aur, arian, gemau gwerthfawr a pherlau, lliain main, defnydd porffor, sidan ac ysgarlad; nwyddau o goed Sitron, pethau wedi eu gwneud o ifori, a pob math o bethau eraill wedi eu gwneud o goed gwerthfawr, o efydd, haearn ac o farmor;
13
sinamon a pherlysiau, arogldarth fel myrr a thus, hefyd gwin ac olew olewydd, blawd mân a gwenith; gwartheg, defaid, ceffylau a cherbydau; a chaethweision hefyd — ie, pobl yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid.
14
“Mae'r holl bethau roeddet ti'n dyheu amdanyn nhw wedi mynd! Dy holl gyfoeth a dy grandrwydd wedi diflannu! Fyddan nhw fyth yn dod nôl!
15
Bydd y bobl fusnes gafodd arian mawr wrth werthu'r pethau hyn iddi, yn sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef. Byddan nhw'n crïo ac yn galaru
16
ac yn gweiddi: ‘Och! Och! Ti ddinas fawr! wedi dy wisgo mewn defnydd hardd a gwisg o borffor ac ysgarlad, a'th addurno dy hun â thlysau o aur a gemau gwerthfawr a pherlau!
17
Mae'r fath gyfoeth wedi ei ddinistrio mor sydyn!’ “Bydd capteiniaid llongau a phawb sy'n teithio ar y môr, yn forwyr a phawb arall sy'n ennill eu bywoliaeth o'r môr, yn sefyll yn bell i ffwrdd.
18
Wrth weld y mwg yn codi am ei bod hi'n llosgi, byddan nhw'n gweiddi, ‘Oes dinas arall debyg i'r ddinas fawr hon?’
19
Byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau, ac yn crïo a galaru a gweiddi'n uchel: ‘Och! Och! Ddinas fawr! cafodd pawb oedd ganddyn nhw longau ar y môr gyfoeth am ei bod hi mor gyfoethog! Mae hi wedi ei dinistrio mor sydyn!’
20
Bydd lawen, nefoedd, am beth sydd wedi digwydd iddi, Byddwch lawen, chi bobl Dduw, a'i gynrychiolwyr a'i broffwydi — Mae Duw wedi ei barnu hi am y ffordd wnaeth hi eich trin chi!”
21
Wedyn dyma angel pwerus yn codi anferth o garreg fawr, tebyg i faen melin mawr, a'i thaflu i'r môr; ac meddai: “Dyna sut fydd Babilon, y ddinas fawr, yn cael ei bwrw i lawr yn ffyrnig — fydd neb yn ei gweld byth mwy!
22
Fydd dim sŵn telynau na cherddorion, ffliwtiau nac utgyrn, i'w clywed ynot eto. Neb sy'n dilyn unrhyw grefft i'w weld ynot eto. Dim sŵn maen melin yn troi;
23
Dim golau lamp i'w weld; Dim sŵn gwledd briodas i'w glywed. Ti oedd y ganolfan fusnes fwyaf dylanwadol yn y byd i gyd, hudaist y cenhedloedd a'u harwain ar gyfeiliorn.
24
Yn wir, Babilon wnaeth dywallt gwaed y proffwydi a phobl Dduw; a phawb yn y byd gafodd eu lladd ar gam.”
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22