bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Revelation 8
Revelation 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 9 →
1
Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, aeth pobman yn y nefoedd yn hollol dawel am tua hanner awr.
2
Wedyn gwelais utgyrn yn cael eu rhoi i'r saith angel sy'n sefyll o flaen Duw.
3
Yna dyma angel arall yn dod, ac yn mynd i sefyll wrth yr allor. Roedd ganddo lestr aur yn ei ddwylo i losgi arogldarth. Dyma bentwr o arogldarth yn cael ei roi iddo, i'w losgi ar yr allor aur o flaen yr orsedd, ac i'w gyflwyno i Dduw gyda gweddïau ei bobl.
4
Roedd mwg yr arogldarth a gweddïau pobl Dduw yn codi o law yr angel at Dduw.
5
Yna dyma'r angel yn llenwi'r llestr gyda marwor o'r allor ac yna'n ei daflu i lawr i'r ddaear; ac roedd sŵn taranau a mellt a daeargryn.
6
Dyma'r saith angel oedd â'r saith utgorn yn paratoi i'w canu.
7
Dyma'r angel cyntaf yn canu ei utgorn, a dyma genllysg a thân wedi ei gymysgu â gwaed yn cael ei hyrddio ar y ddaear. Cafodd un rhan o dair o'r ddaear ei llosgi, a'r coed a'r holl blanhigion yn y rhan yna o'r byd.
8
Dyma'r ail angel yn canu ei utgorn, a dyma rywbeth oedd yn edrych yn debyg i losgfynydd enfawr yn ffrwydro ac yn cael ei daflu i'r môr. Trodd un rhan o dair o'r môr yn waed,
9
lladdwyd un rhan o dair o'r creaduriaid byw yn y môr, a dinistriwyd un rhan o dair o'r llongau.
10
Dyma'r trydydd angel yn canu ei utgorn, a syrthiodd seren enfawr o'r awyr. Roedd yn llosgi'n fflamau wrth ddisgyn. Syrthiodd ar un rhan o dair o'r afonydd a'r ffynhonnau dŵr.
11
‛Wermod‛ oedd enw'r seren, a trodd un rhan o dair o'r dŵr yn chwerw. Y canlyniad oedd fod llawer o bobl wedi marw am fod y dŵr wedi troi'n chwerw.
12
Dyma'r pedwerydd angel yn canu ei utgorn, a dyma un rhan o dair o'r haul a'r lleuad a'r sêr yn cael eu taro. Dyma un rhan o dair ohonyn nhw'n troi'n dywyll. Doedd dim golau am un rhan o dair o'r dydd, na'r nos chwaith.
13
Wedyn gwelais eryr yn hedfan yn uchel yn yr awyr, a'i glywed yn gweiddi'n uchel: “Gwae! Gwae! Gwae pawb sy'n perthyn i'r ddaear, o achos beth sy'n mynd i ddigwydd pan fydd y tri angel arall yn canu eu hutgyrn!”
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22