bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Revelation 21
Revelation 21
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 22 →
1
Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a'r awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y môr ddim yn bodoli ddim mwy.
2
Dyma fi'n gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wedi ei gwisgo'n hardd ar gyfer ei phriodas.
3
Wedyn clywais lais o'r orsedd yn cyhoeddi'n glir, “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw'n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw.
4
Bydd yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel yr oedden nhw wedi mynd.”
5
Dyma'r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud, “Edrychwch! Dw i'n gwneud popeth yn newydd!” Meddai wedyn, “Ysgrifenna hynny i lawr. Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.”
6
Meddai wrtho i: “Dyna ddiwedd y cwbl! Fi ydy'r Alffa a'r Omega, y Dechrau a'r Diwedd. Bydda i'n rhoi diod o ffynnon dŵr y bywyd i'r rhai hynny sy'n sychedig — yn rhad ac am ddim!
7
Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn etifeddu'r pethau yma i gyd. Fi fydd eu Duw nhw, a byddan nhw'n blant i mi.
8
Ond am y rhai llwfr hynny sydd ddim yn credu, a phobl ffiaidd, llofruddion, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, y rhai sy'n ymarfer dewiniaeth ac yn addoli eilun-dduwiau, ac sy'n dweud celwydd — y llyn tân sy'n llosgi brwmstan ydy eu lle nhw! Dyna'r ‛ail farwolaeth‛.”
9
Yna dyma un o'r saith angel oedd yn dal y powlenni llawn o'r saith pla olaf yn dod ata i a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos y briodferch i ti, sef gwraig yr Oen.”
10
Dyma'r angel yn fy nghodi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd a fi i fynydd mawr uchel. Dangosodd y ddinas sanctaidd i mi, Jerwsalem, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd.
11
Roedd ysblander Duw ei hun yn tywynnu ohoni; roedd hi'n disgleirio fel gem anhygoel o werthfawr — fel iasbis, yn glir fel grisial!
12
Roedd anferth o wal uchel o'i chwmpas gyda deuddeg giât ynddi, a deuddeg angel yn gwarchod y giatiau. Roedd enwau deuddeg llwyth Israel wedi eu hysgrifennu ar y giatiau.
13
Roedd tair giât ar yr ochr ddwyreiniol, tair i'r gogledd, tair i'r de a thair i'r gorllewin.
14
Roedd gan wal y ddinas ddeuddeg carreg sylfaen, ac roedd enwau deuddeg cynrychiolydd yr Oen wedi eu hysgrifennu ar y rheiny.
15
Roedd ffon fesur aur gan yr angel oedd yn siarad gyda mi, er mwyn iddo fesur y ddinas, ei giatiau a'i waliau.
16
Roedd y ddinas yn berffaith sgwâr. Pan fesurodd yr angel y ddinas gyda'r ffon fesur cafodd ei bod hi'n 2,250 cilomedr o hyd, ac mai dyna hefyd oedd ei lled a'i huchder.
17
Pan fesurodd yr angel y wal, cafodd ei bod yn chwe deg pum metr o drwch — yn ôl y mesur cyffredin.
18
Roedd y wal wedi ei hadeiladu o faen iasbis, a'r ddinas wedi ei gwneud o aur pur, mor bur â gwydr.
19
Roedd sylfeini waliau'r ddinas wedi eu haddurno gyda phob math o emau gwerthfawr. Maen iasbis oedd y sylfaen cyntaf, saffir oedd yr ail, y trydydd yn galcedon, a'r pedwerydd yn emrallt;
20
onics oedd y pumed, carnelian y chweched, saffir melyn y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, a crysopras y degfed; maen iasinth oedd yr unfed ar ddeg ac amethyst oedd y deuddegfed.
21
Roedd giatiau'r ddinas wedi eu gwneud o berlau, pob giât unigol wedi ei gwneud o un perl mawr. Ac roedd heol fawr y ddinas yn aur oedd mor bur â gwydr clir!
22
Doedd dim teml i'w gweld yn y ddinas, am fod yr Arglwydd Dduw Hollalluog a'r Oen yno, fel teml.
23
Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, a'r Oen fel lamp yn ei goleuo hi.
24
Bydd y cenhedloedd yn byw yn ei golau, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â'u holl gyfoeth i mewn iddi hi.
25
Fydd ddim rhaid i'w giatiau gael eu cau o gwbl, achos fydd dim nos yno.
26
Bydd holl ysblander a chyfoeth y cenhedloedd yn cael eu dwyn i mewn iddi.
27
Ond fydd dim byd aflan yn cael mynd i mewn iddi, nac unrhyw un sy'n gwneud pethau ffiaidd neu'n twyllo chwaith; dim ond y bobl hynny sydd â'u henwau wedi eu hysgrifennu yn Llyfr Bywyd yr Oen.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
Recommended Reading
Commentary
Revelation Commentaries
→
Devotional
Revelation Devotional Guide
→
Get This Bible
BNET Study Bible
→