bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Revelation 5
Revelation 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 6 →
1
Yna gwelais fod sgrôl yn llaw dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y sgrôl ac roedd wedi ei selio â saith sêl.
2
Wedyn gwelais angel pwerus yn cyhoeddi'n uchel, “Pwy sy'n deilwng i dorri'r seliau ar y sgrôl a'i hagor?”
3
Ond doedd neb yn y nefoedd na'r ddaear na than y ddaear yn gallu agor y sgrôl i'w darllen.
4
Dyma fi'n dechrau beichio crïo am fod neb yn deilwng i agor y sgrôl a'i darllen.
5
Ond dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn dweud wrtho i, “Stopia grïo! Edrych! Mae'r Llew o lwyth Jwda, disgynnydd y Brenin Dafydd, wedi ennill y frwydr. Mae e'n gallu torri'r saith sêl ac agor y sgrôl.”
6
Yna gwelais Oen oedd yn edrych fel petai wedi ei ladd. Roedd yn sefyll rhwng yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol oedd o'i chwmpas hi. Roedd ganddo saith corn a saith llygad (yn cynrychioli Ysbryd cyflawn perffaith Duw sydd wedi ei anfon allan drwy'r byd i gyd).
7
Aeth i gymryd y sgrôl o law dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd.
8
Ac wrth iddo gymryd y sgrôl, dyma'r pedwar creadur byw a'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr Oen. Roedd telyn gan bob un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dal powlenni aur yn llawn o arogldarth (sy'n cynrychioli gweddïau pobl Dduw).
9
Roedden nhw'n canu cân newydd: “Rwyt ti'n deilwng i gymryd y sgrôl ac i dorri y seliau, am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth, ac wedi prynu pobl i Dduw â'th waed — pobl o bob llwyth ac iaith, hil a chenedl.
10
Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhw a'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw. Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.”
11
Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion — miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol,
12
ac yn canu'n uchel: “Mae'r Oen gafodd ei ladd yn deilwng i dderbyn grym a chyfoeth, doethineb a nerth, anrhydedd, ysblander a mawl!”
13
Yna clywais bopeth byw yn y nefoedd ac ar y ddaear, tan y ddaear ac ar y môr — y cwbl i gyd — yn canu: “Clod ac anrhydedd, gogoniant a nerth am byth bythoedd, i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen!”
14
“Amen!” meddai'r pedwar creadur byw, a dyma'r arweinwyr ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau i addoli.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22