bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Revelation 22
Revelation 22
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
1
Wedyn dangosodd yr angel afon o ddŵr bywiol i mi. Roedd y dŵr yn lân fel grisial ac yn llifo o orsedd Duw a'r Oen
2
i lawr heol fawr y ddinas. Roedd coed y bywyd bob ochr i'r afon yn rhoi deuddeg cnwd o ffrwythau — cnwd newydd bob mis. Mae dail y coed yn iacháu y cenhedloedd.
3
Fydd melltith rhyfel ddim yn bod mwyach. Bydd gorsedd Duw a'r Oen yn y ddinas, a bydd y rhai sy'n ei wasanaethu yn cael gwneud hynny.
4
Cân nhw weld ei wyneb, a bydd ei enw wedi ei ysgrifennu ar eu talcennau.
5
Fydd dim y fath beth â nos, felly fydd ganddyn nhw ddim angen golau lamp, na hyd yn oed golau'r haul. Bydd yr Arglwydd Dduw yn rhoi golau iddyn nhw. Byddan nhw'n teyrnasu am byth bythoedd.
6
Dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir. Mae'r Arglwydd, y Duw sy'n ysbrydoli'r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i'r rhai sy'n ei wasanaethu beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan.”
7
“Edrychwch! Dw i'n dod yn fuan! Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae proffwydoliaeth y llyfr hwn yn ei ddweud wedi eu bendithio'n fawr.”
8
Fi, Ioan, glywodd ac a welodd y pethau yma i gyd. Ar ôl i mi eu clywed a'u gweld syrthiais i lawr wrth draed yr angel oedd wedi bod yn dangos y cwbl i mi a'i addoli.
9
Ond dyma'r angel yn dweud, “Paid! Duw ydy'r unig Un rwyt i'w addoli! Un yn gwasanaethu Duw ydw i, yr un fath â ti a'r proffwydi eraill a phawb arall sy'n gwneud beth mae'r llyfr hwn yn ei ddweud.”
10
Yna dwedodd wrtho i, “Paid cau'r llyfr yma, a rhoi sêl arno i rwystro pobl rhag darllen y neges broffwydol sydd ynddo, achos mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos!
11
Gadewch i'r rhai sy'n gwneud drwg ddal ati i wneud drwg; gadewch i'r rhai anfoesol ddal ati i fod yn anfoesol; gadewch i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ddal ati i wneud beth sy'n iawn; a gadewch i'r rhai sy'n sanctaidd ddal ati i fod yn sanctaidd.”
12
“Edrychwch! Dw i'n dod yn fuan! Bydd gen i wobr i'w rhoi i bawb, yn dibynnu ar beth maen nhw wedi ei wneud.
13
Fi ydy'r Alffa a'r Omega, y Cyntaf a'r Olaf, y Dechrau a'r Diwedd.
14
“Mae'r rhai sy'n glanhau eu mentyll wedi eu bendithio'n fawr, ac yn cael mynd at goeden y bywyd, ac yn cael mynediad drwy'r giatiau i mewn i'r ddinas.
15
Y tu allan mae'r cŵn, a'r rhai sy'n ymarfer dewiniaeth, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, llofruddion, y rhai sy'n addoli eilun-dduwiau a phawb sy'n caru twyllo.
16
“Dw i, Iesu, wedi anfon fy angel i rannu'r dystiolaeth hon gyda chi er lles yr eglwysi. Fi ydy disgynnydd y Brenin Dafydd, a'r Seren sy'n disgleirio yn y bore.”
17
Mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, “Tyrd!” Gadewch i bawb sy'n clywed ateb, “Tyrd!” Gadewch i'r rhai sydd â syched arnyn nhw ddod. Pwy bynnag sydd eisiau, gadewch iddyn nhw dderbyn dŵr y bywyd yn rhodd.
18
Dw i'n rhybuddio pawb sy'n clywed geiriau proffwydol y llyfr hwn: Os bydd unrhyw un yn ychwanegu rhywbeth atyn nhw, bydd Duw yn dod â'r plâu sy'n cael eu disgrifio yn y llyfr hwn arnyn nhw.
19
Ac os bydd unrhyw un yn dileu rhan o neges broffwydol y llyfr hwn, bydd Duw yn cymryd oddi arnyn nhw eu siâr o goeden y bywyd a'u lle yn y ddinas sanctaidd sy'n cael ei disgrifio yn y llyfr hwn.
20
Mae'r un sy'n rhoi'r dystiolaeth am y pethau hyn yn dweud, “Ydw, dw i'n dod yn fuan.” Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu!
21
Dw i'n gweddïo y bydd pobl Dduw i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu! Amen.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
Recommended Reading
Commentary
Revelation Commentaries
→
Devotional
Revelation Devotional Guide
→
Get This Bible
BNET Study Bible
→