bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Kings 11
1 Kings 11
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 12 →
1
Ond y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr, heblaw merch Pharo, Moabesau, Ammonesau, Edomesau, Sidonesau, a Hethesau;
2
O'r cenhedloedd am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad.
3
Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd, yn freninesau; a thri chant o ordderchwragedd: a'i wragedd a droesant ei galon ef.
4
A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda'r ARGLWYDD ei DDUW, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef.
5
Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom ffieidd‐dra yr Ammoniaid.
6
A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad.
7
Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos, ffieidd‐dra Moab, yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem; ac i Moloch, ffieidd-dra meibion Ammon.
8
Ac felly y gwnaeth efe i'w holl wragedd dieithr, y rhai a arogldarthasant ac a aberthasant i'w duwiau.
9
A'r ARGLWYDD a ddigiodd wrth Solomon, oherwydd troi ei galon ef oddi wrth ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith,
10
Ac a orchmynasai iddo am y peth hyn, nad elai efe ar ôl duwiau dieithr: ond ni chadwodd efe yr hyn a orchmynasai yr ARGLWYDD.
11
Am hynny y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Solomon, Oherwydd bod hyn ynot ti, ac na chedwaist fy nghyfamod a'm deddfau a orchmynnais i ti; gan rwygo y rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthyt ti, ac a'i rhoddaf hi i'th was di.
12
Eto yn dy ddyddiau di ni wnaf hyn, er mwyn Dafydd dy dad: o law dy fab di y rhwygaf hi.
13
Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth; un llwyth a roddaf i'th fab di, er mwyn Dafydd fy ngwas, ac er mwyn Jerwsalem yr hon a etholais.
14
A'r ARGLWYDD a gyfododd wrthwynebwr i Solomon, Hadad yr Edomiad: o had y brenin yn Edom yr oedd efe.
15
Canys pan oedd Dafydd yn Edom, a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fyny i gladdu'r lladdedigion, wedi iddo daro pob gwryw yn Edom;
16
(Canys chwe mis yr arhosodd Joab yno â holl Israel, nes difetha pob gwryw yn Edom:)
17
Yr Hadad hwnnw a ffodd, a gwŷr Edom o weision ei dad gydag ef, i fyned i'r Aifft; a Hadad yn fachgen bychan eto.
18
A hwy a gyfodasant o Midian, ac a ddaethant i Paran: ac a gymerasant wŷr gyda hwynt o Paran, ac a ddaethant i'r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft; ac efe a roddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo, ac a roddodd dir iddo.
19
A Hadad a gafodd ffafr fawr yng ngolwg Pharo, ac efe a roddes iddo ef yn wraig chwaer ei wraig ei hun, chwaer Tahpenes y frenhines.
20
A chwaer Tahpenes a ymddûg iddo ef Genubath ei fab; a Thahpenes a'i diddyfnodd ef yn nhŷ Pharo: a Genubath fu yn nhŷ Pharo ymysg meibion Pharo.
21
A phan glybu Hadad yn yr Aifft, huno o Dafydd gyda'i dadau, a marw o Joab tywysog y filwriaeth, Hadad a ddywedodd wrth Pharo, Gollwng fi, fel yr elwyf i'm gwlad fy hun.
22
A dywedodd Pharo wrtho ef, Ond pa beth sydd arnat ei eisiau gyda mi, pan wyt, wele, yn ceisio myned i'th wlad dy hun? Ac efe a ddywedodd, Dim; eithr gan ollwng gollwng fi.
23
A DUW a gyfododd wrthwynebwr arall yn ei erbyn ef, Reson mab Eliada, yr hwn a ffoesai oddi wrth Hadadeser brenin Soba ei arglwydd:
24
Ac efe a gynullodd wŷr ato, ac a aeth yn dywysog ar fyddin, pan laddodd Dafydd hwynt o Soba; a hwy a aethant i Damascus, ac a drigasant ynddi, ac a deyrnasasant yn Damascus.
25
Ac yr oedd efe yn wrthwynebwr i Israel holl ddyddiau Solomon, heblaw y drwg a wnaeth Hadad: ac efe a ffieiddiodd Israel, ac a deyrnasodd ar Syria.
26
A Jeroboam mab Nebat, Effratead o Sereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfa, yr hon oedd wraig weddw,) gwas i Solomon, a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin.
27
Ac o achos hyn y dyrchafodd efe ei law yn erbyn y brenin: Solomon a adeiladodd Milo, ac a gaeodd adwyau dinas Dafydd ei dad.
28
A'r gŵr Jeroboam oedd rymus o nerth: a Solomon a ganfu y llanc hwnnw yn medru gwneuthur gwaith, ac a'i gwnaeth ef yn oruchwyliwr ar holl faich tŷ Joseff.
29
A'r pryd hwnnw, a Jeroboam yn myned allan o Jerwsalem, y proffwyd Ahia y Siloniad a'i cafodd ef ar y ffordd, ac efe oedd wedi ei wisgo mewn gwisg newydd, a hwynt ill dau oeddynt yn unig yn y maes.
30
Ac Ahia a ymaflodd yn y wisg newydd oedd amdano ef, ac a'i rhwygodd yn ddeuddeg o ddarnau.
31
Ac efe a ddywedodd wrth Jeroboam, Cymer i ti ddeg darn: canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, Wele fi yn rhwygo'r frenhiniaeth o law Solomon, a rhoddaf ddeg llwyth i ti:
32
(Ond un llwyth fydd iddo ef, er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel:)
33
Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy neddfau a'm barnedigaethau, fel Dafydd ei dad.
34
Ond ni chymeraf yr holl frenhiniaeth o'i law ef: eithr gwnaf ef yn dywysog holl ddyddiau ei einioes, er mwyn Dafydd fy ngwas, yr hwn a ddewisais i, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion a'm deddfau i:
35
Eithr cymeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef, a rhoddaf ohoni i ti ddeg llwyth.
36
Ac i'w fab ef y rhoddaf un llwyth; fel y byddo goleuni i'm gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno.
37
A thi a gymeraf fi, fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a ddymuno dy galon; a thi a fyddi frenin ar Israel.
38
Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau a'm gorchmynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas; yna mi a fyddaf gyda thi, ac a adeiladaf i ti dŷ sicr, fel yr adeiledais i Dafydd, a mi a roddaf Israel i ti.
39
A mi a gystuddiaf had Dafydd oblegid hyn; eto nid yn dragywydd.
40
Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam. A Jeroboam a gyfododd, ac a ffodd i'r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft; ac efe a fu yn yr Aifft hyd farwolaeth Solomon.
41
A'r rhan arall o weithredoedd Solomon, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'i ddoethineb ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr gweithredoedd Solomon?
42
A'r dyddiau y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem, ar holl Israel, oedd ddeugain mlynedd.
43
A Solomon a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22